Y llwyfan band
TCafodd y llwyfan band ei hadeiladu yn 1925 ar gyfer Band Tref Llandudno. Roedd pobl wrth eu bodd yn gwrando ar y band pres pan oeddent yma ar eu gwyliau.
Enillodd y band wobrau mewn cystadlaethau.
Wyddech chi?
Pan ffurfiwyd y band yn 1910, doedd perchnogion y gwestai ddim eisiau llwyfan band ar y prom oherwydd roeddent yn ofni y byddai'r gerddoriaeth yn tarfu ar eu gwesteion. Felly cafodd y band lwyfan symudol, a'i defnyddio i chwarae mewn llawer o lefydd ar hyd y prom.
R
Wedi cyrraedd pen y daith?
MAE'R DASG WEDI'I CHWBLHAU! Da iawn!
Eich gair seren ydi Y GOGARTH
Y Gogarth ydi'r ardal greigiog y gallwch ei gweld y tu hwnt i'r pier. Mae pobl wedi bod yn byw ac yn gweithio yno am filoedd o flynyddoedd. Rwan mae gan Y Gogarth lawer o bethau sy'n hwyl i'w gwneud – gallwch reidio i'r brig mewn tram neu gar cebl, neu wibio i lawr ar lwybr tobogan hiraf Cymru!
Os nad ydych wedi codi taflen weithgaredd o'r Ganolfan Groeso (yn Stryd Mostyn) eto, yna cliciwch yma i gael map o leoliadau cod QR y plant.
Neu lawrlwythwch y daflen weithgaredd yma (pdf, 5.2MB) i'w hargraffu adref cyn eich ymweliad.