Gwesty’r Victoria, Bethesda

Gwesty’r Victoria, Bethesda

bethesda_omnibus_by_llyn_ogwen

Cafodd un rhan o’r gwesty hwn ei tharo gan fellten a’i malu mewn storm ym Mehefin 1893. Rai blynyddoedd wedyn, roedd y gwesty’n ffodus i beidio â chael ei losgi’n ulw pan aeth Neuadd y Farchnad, drws nesaf, ar dân yng Ngorffennaf 1907. Dioddefodd y gwesty gryn ddifrod oherwydd y dŵr.

Disgrifiwyd Gwesty’r Victoria yn 1855 fel un oedd yn cynnig llety helaeth, gwelyau oedd wedi’u hawyru’n dda a choetsis yn mynd i Fangor ac yn ôl yn yr haf. Yn y 1860au, byddai bysiau “mawr, braf … yn cael eu gyrru gan ddynion sobr a phrofiadol” hefyd yn cludo ymwelwyr i’r chwareli llechi gerllaw. Mae’r llun yn dangos bws o’r cyfnod hwn wrth Lyn Ogwen.

Yn 1891, aeth tenant oedd yn gadael y gwesty â’r tenant newydd i gyfraith am bris gorchudd llawr linoliwm newydd! Honnodd y tenant newydd fod perchennog y gwesty, Greenall & Whitley, wedi talu amdano, ond fe’i gorchmynnwyd i dalu £4 10s.

Cynhaliodd pwyllgor Sioe Amaethyddol Bethesda swper yma ym 1897. Nodwyd bod y sioe “wedi gwneud llawer i wella amaethyddiaeth a garddwriaeth yn y fro”. Mae’r traddodiad yn parhau, gyda Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen yn cael ei chynnal bob mis Mehefin ar gaeau rygbi Bethesda.

Yn ystod y Streic Fawr (1900-1903), cafwyd llawer o helbul yng nghyffiniau tafarndai Bethesda. Yng Ngorffennaf 1901, daeth 300-400 o bobl ynghyd tu allan i Westy’r Victoria “gan feddiannu’r stryd gyfan” a dweud bod “bradwyr” tu mewn. Cafodd ffenestri’r gwesty eu malu yn Ionawr 1902.

Ym 1905, gadawodd William Hughes, saer maen wedi ymddeol, y gwesty yn feddw; fe syrthiodd ac fe’i trawyd yn anymwybodol. Aethpwyd ag ef i feddygfa Dr Griffiths. Tystiodd y meddyg yn y llys fod William wedi meddwi ond gofynnodd William iddo: “Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dyn sy’n feddw a dyn sy’n hanner meddw?” Atebodd Dr Griffiths fod y feddygfa yn drewi o gwrw a chwisgi ar ôl i William gyrraedd a’i fod “wedi dechrau cyfansoddi barddoniaeth” (chwerthin yn y llys). “Dyna,” meddai’r meddyg, “beth dwi’n ei alw’n feddw.” Cafodd William ddirwy o 5s a chafwyd y landlord, Alfred Green, yn euog o ganiatáu meddwdod yn y gwesty a chafodd ddirwy fwy byth sef £2 a chostau.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o'r Tŷ Hanes, ac i Dr Paul Rowlinson am y cyfieithiad

Cod post: LL57 3AN    Map

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button