Neuadd y Farchnad, Bethesda

Neuadd y Farchnad, Bethesda

Mae’r neuadd hon wedi chwarae rôl allweddol ym mywyd pobl Bethesda ers cenedlaethau, gan ddarparu lleoliad ar gyfer marchnadoedd, cyfarfodydd, perfformiadau theatrig a chyngherddau elusennol. Cynhaliwyd un cyngerdd, yn Rhagfyr 1899, er budd gweddwon a phlant amddifad milwyr Prydeinig a laddwyd yn Rhyfel y Boer. Cafodd y perfformwyr gymeradwyaeth ond beth gafodd y sylw mwyaf oedd y gramoffon, rhywbeth oedd wedi’i ddyfeisio yn gymharol ddiweddar!

Yn 1898, roedd y neuadd dan ei sang pan anerchodd David Lloyd George gyfarfod o Ryddfrydwyr. Cyfeiriodd at anghydfod diweddar yn Chwarel y Penrhyn gan nodi bod ymddygiad y chwarelwyr “yn yr amgylchiadau anodd hynny” wedi ennill edmygedd gweithwyr ledled y wlad.

bethesda_market_hall_after_fire

Yn ystod y Streic Fawr rhwng 1900 a 1903, Neuadd y Farchnad oedd prif leoliad y streicwyr ar gyfer cyfarfodydd torfol. Pan ail-agorwyd y chwarel ym Mehefin 1901, cafwyd diwrnod o wrthdystiadau gan y streicwyr, gan ddiweddu gyda’r dorf yn gorymdeithio o Bont y Tŵr i Neuadd y Farchnad. Ar flaen yr orymdaith roedd baner gyda’r geiriau: “Byddwch ffyddlon i’ch cydweithwyr.” Yn y neuadd cafwyd cymeradwyaeth fawr i’r faner. Cafwyd cymeradwyaeth hefyd i Mrs Elizabeth Williams, oedd wedi ei chael yn euog yr wythnos flaenorol o dorri’r heddwch. Fe’i gorfodwyd i dalu costau a dirwy o 5s am fod yn rhan o dorf a wrthdystiodd yn erbyn y rhai oedd wedi dychwelyd i weithio yn y chwarel.

Cynhelid marchnadoedd yma ar nos Sadwrn a nos Lun, gan aros yn agored yn hwyr yn y nos. Ym 1907, gwnaed cwyn i’r cyngor trefol am gyflwr peryglus y neuadd, gan nodi, pan oedd y neuadd “yn llawn dop o bobl ar nos Sadwrn” bod y lampau paraffîn a naffphtha yn “beryglus iawn”.  

Roedd y gŵyn yn broffwydol. Aeth y neuadd ar dân ddydd Sul 11 Gorffennaf 1909. Nid oedd injan dân na brigâd dân ym Methesda ond daeth pob dyn cadarn o gorff allan i helpu a diffoddwyd y tân erbyn 10 y bore, tair awr ar ôl eu galw allan. Difrodwyd y neuadd, gyda dim ond y muriau cerrig ac “un neu ddau o drawstiau gydag ôl llosgi arnynt” ar ôl, fel sydd i’w weld yn y llun (hawlfraint: Gwasanaeth Archifau Gwynedd). Roedd Gwesty Victoria, yr adeilad cyfagos, yn ffodus i oroesi.

Ailadeiladwyd y neuadd a heddiw, dan yr enw Neuadd Ogwen, mae’n dal i chwarae rôl bwysig ym Methesda, gyda chyngherddau, ffilmiau a phob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma. Yn ystod yr eira mawr yn 2010-11 cafodd ei defnyddio fel ystafell bost; roedd yn amhosibl mynd â’r post i rai o’r pentrefi cyfagos oherwydd yr eira a’r rhew.

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce, o'r Tŷ Hanes, ac i Wasanaeth Archifau Gwynedd am y llun. Cyfieithiad gan Dr Paul Rowlinson

Cod post: LL57 3AN    Map

Gwefan Neuadd Ogwen

Gwefan Gwasanaeth Archifau Gwynedd

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour