Capel Seilo, Nant Gwrtheyrn

Capel Seilo, Nant Gwrtheyrn

Adeiladwyd y capel hwn yn 1878, ar gost o £300. Disodlodd pafiliwn pren lle y byddai trigolion y pentref yn casgly yn wreiddiol ar gyfer addoli. Heddiw mae caffi a bwyty yn sefyll ar safle’r pafiliwn.

Roedd gan Capel Seilo seddi ar gyfer 130. Cynhaliwyd gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg. Cafwyd cyfarfodydd gweddi, Band of Hope a seiat reolaidd – traddodiad capel a oedd yn cynnig cyfle i aelodau’r gynulleidfa i drafod diwinyddiaeth. Erbyn 1900, roedd tua 60 o blant yn mynychu ysgol Sul yn y capel.

Lleihaodd y gynulleidfa o 1914, gyda newidiadau yn y busnes chwarela. Ddaeth y chwarela i ben yn 1939. Roedd y capel yn dal yn adfael ar ôl atgyfodiad y pentref yn y 1980au cynnar fel cartref y Ganolfan Iaith Genedlaethol. Ond yn 2003 cafodd y capel ei ailadeiladu a'i ailgysegru. Rwan mae gwasanaethau’n cael eu cynnal yn y capel yn ogystal â seremonïau priodas a bedydd.

Mae'r adeilad ar agor fel canolfan ymwelwyr pryd bynnag y ganolfan iaith ar agor. Mae’r arddangosfeydd y tu mewn yn adrodd hanes Nant Gwrtheyrn a rhai o'i thrigolion. Cynlluniodd pensaer o Gaernarfon, Maredudd ab Iestyn, y trawsnewid ar gyfer rôl newydd y capel, gan gynnwys yr estyniad gwydr ar y talcen gorllewinol.

Côd Post: LL53 6NL    Carte

Gwefan Nant Gwrtheyrn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button