Cymraeg North Wales Pilgrim's Way

Taith Pererin Gogledd Cymru

Llwybr cerdded hir o Dreffynnon i Ynys Enlli ydi Taith Pererin Gogledd Cymru. Mae’n cysylltu safleoedd sy'n gysylltiedig â seintiau allweddol, wrth ymdroelli am 240km trwy rai o lefydd harddaf a mwyaf anghysbell y rhanbarth.

Gallwch ddod o hyd i fapiau a disgrifiadau o'r llwybr ar y safle we hwn.

Wrth i chi ddilyn y llwybr, gwyliwch am côdau QR HistoryPoints wrth leoedd o ddiddordeb (“HiPoints”). Sganiwch y côd cyntaf efo’ch ffôn symudol am grynodeb o hanes y lle hwnnw. Sganiwch yr ail QR i lawrlwytho'r dudalen berthnasol o HistoryPoints.org. Ar ôl darllen y dudalen, gallwch ddefnyddio’r eiconau ar waelod y dudalen i ddarganfod yr HiPoint nesaf ar y daith.

Mae "Nesaf" ar y daith hon yn dynodi o'r dwyrain i'r gorllewin (o Dreffynnon). Os ydych yn cerdded o'r gorllewin i'r dwyrain, gwasgwch "Diwethaf" wrth ymadael â phob HiPoint.

Mae'r llwybr yn mynd trwy ardaloedd lle y mae derbyniad ffôn yn wan. Gallwch barhau i ddarllen y testunau crynodeb hyd yn oed os nad oes derbyniad o gwbl. Yna gallwch sganio'r ail gôd QR a storio'r URL (cyfeiriad gwefan) ar eich ffôn, yn barod i chi i lawrlwytho’r dudalen pan fyddwch yn medru cysylltu’ch ffôn eto.

I weld y daith QR ar eich cyfrifiadur, dewiswch un o'r pwyntiau mynediad i'r llwybr isod:

Greenfield
Treffynnon
Lloc
Llanasa
Tremeirchion
Llanelwy
Llangernyw
Llansannan
Tal-y-Cafn
Rowen
Penmaenmawr
Llanfairfechan
Bangor
Llanberis
Waunfawr
Clynnog Fawr
Trefor
Nant Gwrtheyrn
Porthdinllaen
Aberdaron