Venue Cymru Cymraeg

Venue Cymru, Y Promenâd, Llandudno

Er mai adeilad cyfoes ydi Venue Cymru, mae gan y safle cryn hanes o adloniant. Ar ochr chwith y safle, lle y mae Arena Venue Cymru heddiw, roedd theatr a agorwyd yn 1894 efo’r enw Victoria Palace. Bwriadwyd codi pier yn agos at yr adeilad.

Neuadd gyngerdd oedd yr adeilad yn wreiddiol, â 1,150 o seddau, ar gyfer Jules Riviere a'i gerddorfa o 42 o gerddorion. Roeddynt newydd symud o Bafiliwn y Pier ar ôl syrthio allan gyda Chwmni Pier Llandudno. Yn 1894 rhoddodd Syr Charles Hallé a’i wraig ddatganiad piano a ffidil yma gyda'i gerddorfa. Chwe blynedd yn ddiweddarach, fe symudodd i Fae Colwyn.

Yn 1900 ail-enwyd yr adeilad Tŷ Opera Llandudno, ac fe roddodd lwyfan i gwmni ophoto_of_hippodromepera enwog Carl Rosa. Yn ddiweddarach, o dan yr enw Hippodrome (gweler y llun, dde), fe'i defnyddiwyd fel rhinc sglefr-rholio a neuadd ddawns, tra’n hefyd cynnal sioeau haf. O 1915 daeth yr adeilad yn adnabyddus fel Catlin’s Arcadia, cartref i pierrots Will Catlin. Parhaodd Catlin’s Showtime tan 1968. Yna fe brynodd Cyngor Dosbarth Trefol Llandudno y theatr. Roedd y digrifwr Ken Dodd yn berfformiwr rheolaidd yno yn y cyfnod hwn.

Syrthiodd y llen olaf ym Mehefin 1994, ychydig ddyddiau cyn i Theatr Gogledd Cymru agor y drws nesaf. Yn fuan tyfodd y galw am gynadleddau busnes a gwleidyddol, yn ogystal ag adloniant, yn rhy fawr i’r adeilad, a gafodd ei ehangu gan Gyngor Sir Bwrdeistref Conwy ar gost o £11,745,370. Yn 2006 dewiswyd yr enw Venue Cymru, o blith 292 awgrymiad, ar gyfer y cyfleusterau newydd. Heddiw may Venue Cymru yn dal i gynnal y traddodiad hir o berfformio byw yn Llandudno.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes landudno & Colwyn Bay

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Gwefan Venue Cymru

Côd Post:: LL30 1BB

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Llandudno Showbiz Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button