Twnnel Conwy, Priffordd A55

Twnnel Conwy, Priffordd A55

Rhwng Cyffordd Llandudno a Deganwy, mae Llwybr Arfodir Cymru yn croesi’r A55 ger ceg ddwyrieiniol Twnnel Conwy. Crewyd y tir yma trwy ddull a enwir “torri a gorchuddio” – palu ffos ac yna gosod to drosti.

Ar gyfer y rhan fwyaf o’r twnnel o dan y dwr, defnyddiwyd y dull “tiwb wedi trochi” – am y tro cyntaf erioed ym Mhrydain. Ffurfiwyd chwech rhan o tiwb concrit mewn pant a balwyd yn arbennig ger Morfa Conwy (rwan yn gartref i Hafan Conwy). Roedd pob rhan yn pwyso tua 30,000 tunnell ac yn mesur 118 metr o hyd, 24 metr o led a 10.5 metr o uchder. Roedd y trawsdoriad yn ddigon mawr i alluogi dwy lôn o draffig i redeg ochr wrth ochr y tu mewn i’r tiwbiau. Cynlluniwyd y twnnel gan Travers Morgan & Partners, gyda chymorth Christiani & Nielsen.

Defnyddiodd Costain a Tarmac, y contractwyr, teclynau hynofedd i alluogi’r tiwbiau i arnofio allan i’r foryd. Wedyn gostwyngwyd y rhannau i’w safleoedd, mewn ffos ar draws gwely’r foryd. Roedd palu ac atgyfnerthu’r ffos ymhlith yr agweddau anoddaf yn yr holl gontract. Roedd angen cryn dipyn o waith hefyd i greu’r rampiau i lawr at gegau’r twnel bob pen, a’r rhannau “torri a gorchuddio” ger y ddwy geg.

Costiodd y twnel mwy na £140m. Fe’i agorwyd gan y frenhines ar 25 Hydref 1991, a daeth y cyfnod hir o dagefeydd traffig aruthrol yng Nghonwy i ben.

Where is this HiPoint?

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button