Cymraeg Site of Rhyl Pier

Safle Pier Y Rhyl

Picture of Rhyl pier in the 1890sSafodd y Victoria Pier ger y lle hwn. Cafodd ei adeiladu yn 1867 - y pier cyntaf yng Ngogledd Cymru - a daeth yn ased twristiaeth mawr i Rhyl. Aeth stemars oddi yma i gyrchfannau eraill yng Nghymru a chludo torfeydd yma ar eu gwyliau o Lerpwl. Dros y blynyddoedd difrodwyd y pier gan dân, stormydd a gwrthdrawiadau, a chafodd ei ddymchwel yn y pen draw yn 1973.

Dyluniwyd y pier gan James Brunless ac fe’i adeiladwyd gan y Meistri Laidlaw o Glasgow, ar gost o £15,000. Roedd hwn yn brosiect mawr ar gyfer Y Rhyl, pan oedd dim ond 5,000 yn byw yn y dref. Roedd y pier yn ymestyn 718m (2,355 troedfedd) o’r lan. Roedd yn 4.9m (16 troedfedd) o led, a safodd 3.35m (11 troedfedd) uwchben lefel y llanw uchel. Adeiladwyd siopau arno, a darparwyd ystafelloedd lluniaeth a bandstand. Roedd adloniant ym Mhafiliwn y Pier a’r Pafiliwn Bijou hefyd.

Mae’r llun uchaf yn dangos y strwythurau yn y 1890au. Mae’r llyn isaf, o gasgliad y diweddar James Roberts, yn dangos hyd y pier.

Old photo of Rhyl piery Nadolig 1883, tarodd long o'r enw The Lady Stewart y pier yn ystod corwynt, a chollwyd 36-46m (120-150ft) o’r strwythur. Yna, yn 1884, tarodd stemar Norwyaidd o'r enw St Olaf y pier yn ystod storm.

Ym 1901 dinistriodd dân y Grand Pavilion, a safai wrth y fynedfa, a chaewyd rhan o'r strwythur. Achosodd stormydd yn 1909 ddifrod pellach, ac erbyn 1913 roedd y pier yn anniogel ac fe’i roddwyd ar werth. Daeth dim ceisiadau, ac yn y pen draw fe brynodd Cyngor Dosbarth Trefol Y Rhyl y pier am £1,000.

Ail-agorwyd y pier yn 1930, ond yn Ebrill 1965 penderfynodd y Cyngor i ddymchwel y strwythur, a oedd wedi cael ei esgeuluso. Safodd, ar gau i'r cyhoedd, am wyth mlynedd arall cyn cael ei dynnu i lawr yng ngwanwyn 1973.

Gyda diolch i Ruth Pritchard, o Glwb Hanes Rhyl, ac i Jo Roberts

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button