Pont New York, Penmaenmawr

Pont New York, Ffordd Bangor, Penmaenmawr

Enwyd y bont hon ar ôl Bythynnod New York gerllaw. Mae’n croesi cludfelt sy'n cymryd cerrig o’r chwarel ar ochr y bryn i hopr llwytho uwch trac y rheilffordd. Adeiladwyd y bont yn ôl pob tebyg yn nghanol y 19eg ganrif. Mae pileri hardd y bont a’u pennau cerfiedig yn glod i'r seiri maen a adeiladodd y strwythur.

Mae'r cludfelt yn dilyn llwybr a adeiladwyd yn wreiddiol fel inclein – trac ar oledd – ar gyfer wagenni rheilffordd. Wrth iddynt ddisgyn, roedd y wagenni llawn yn tynnu rhai gwag i fyny ar drac arall i ben y llethr, trwy gyfrwng cebl a oedd yn pasio drwy tŷ weindio ar gyfer rheoli cyflymder y wagenni. Caewyd y rheilffordd yn y 1950au.

Yn wreiddiol cludodd yr inclein cerrig nid yn unig at y rheilffordd, ond hefyd i lanfa i'w llwytho ar longau ar gyfer allforio. Mae craig Penmaenmawr yn ffurf o ansawdd eithriadol o uchel o wenithfaen, ac roedd galw mawr amando mewn sawl rhan o Ewrop ar gyfer adeiladu dociau a strwythurau eraill.

Yn 1882 esgynnodd y Prif Weinidog William Ewart Gladstone a'i wraig at y chwareli mewn wagen gwag ar yr inclein, tra’n aros am wyliau ym Mhenmaenmawr. Roedd y profiad mor frawychus fe mynnodd y ddau gerdded i lawr!

Roedd gan chwareli ithfaen Penmaenmawr 124km o reilffyrdd â mesuryddion gwahanol rhwng y cledrau. Roedd nifer o incleiniau i symud cerrig rhwng lefelau gwahanol chwarel.

Mae’r trafnidiaeth o fewn a thu allan i’r chwarel yn cael ei ddarparu yn awr gan lorïau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r garreg wedi cael ei falu i wneud tarmac. Mae peth o’r garreg yn cael ei ddefnyddio hefyd fel balast rheilffyrdd (y cerrig o dan y traciau). Mae peiriannau diesel yn cludo trenau llawn cerrig o Benmaenmawr i storfeydd Network Rail.

Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr

Côd post: LL34 6NP    Map

William Gladstone Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button