Cymraeg The Mill Leat, Bute Park

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Link to commissioned pages information

Hen Gafn y Felin a safle’r Bont Swisaidd

Ar un adeg bu’r ddyfrffos hon yn rhan o bwll mawr y felin ar ben deheuol nant y felin a gloddiwyd yn y 12fed ganrif i gludo dŵr i’r melinau ŷd ger Porth y Gorllewin. Cafodd y pwll ei lenwi â phridd ddiwedd y 18fed ganrif ar ôl rhoi’r gorau i ddefnyddio’r melinau. Cafodd y rhan fwyaf o nant y felin ei ailgyfeirio i ffurfio rhan o gamlas gyflenwi'r dociau (esboniad yma). Yn ddiweddarach, daeth y rhan fach o’r sianel i’r de o Bont y Fonesig Bute yn nodwedd dŵr addurniadol gyda lilïau’r dŵr â physgod aur.

Old photo of the Mill Leat at Bute Park
Ardal cafn y felin cyn ei ddraenio

Yn yr 1870au codwyd pont bren â tho – sef y Bont Swisaidd – ar draws y sianel er mwyn galluogi’r teulu Bute i fynd yn syth o’r castell i’w tiroedd (sef Parc Bute erbyn hyn). Mae’n debyg bod dyluniad y pensaer William Burges wedi’i ysbrydoli gan y bont ganoloesol yn Lucerne, y Swistir.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd 4ydd Ardalydd Bute (a oedd yn byw’n rhan-amser yng Nghastell Caerdydd) gloddio llawer o dreftadaeth goll y castell, yn cynnwys melinau Caerdydd. Adferwyd Porth y Gorllewin a’r sianelau a oedd yn cynnwys yr olwynion dŵr yn y cyfnod hwn.

Symudwyd y bont ymhellach i’r gogledd, i groesi camlas gyflenwi'r dociau, ym 1927 gan fod ardal cafn y felin yn orlawn ers ailadeiladu Porth y Gorllewin ym 1921. Bu’n rhaid symud y bont ymaith ar ôl iddi gael ei fandaleiddio yn y 1960au.

Old photo of the Swiss Bridge in Bute Park
Y Bont Swisaidd

Draeniwyd cafn y felin ddiwedd y 1970au ar ôl i rywun foddi yno a phroblemau llifogydd yng ngwaelod Gwesty’r Angel ar yr ochr arall i Heol y Castell.

Yn 2013 cafodd y sianel ei chloddio, ei leinio a’i hail-lenwi â dŵr fel rhan o Broject Adfer Parc Bute, a ariannwyd ar y cyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyngor Caerdydd. Mae’r dŵr yn aros yn y sianel erbyn hyn, er mwyn atal y posibilrwydd o lifogydd i lawr y nant. Caiff y dŵr ei gylchredeg i'w atal rhag troi’n ferddwr.

Where is this HiPoint?

I barhau â thaith Parc Bute, ewch yn ôl ar hyd y llwybr ac yna croeswch Pont Arglwyddes Bute a cherddwch tuag at gefn y castell. Stopiwch wrth y rhodfa goed sy’n arwain i’r chwith. Mae côd QR ar ochr bin sbwriel Navigation next button