Gweddillion Blocws y Dwyrain, ger Angle

Logo of Pembroke NPAYn 1539 rhoddodd Brenin Harri’r VIII orchymyn i adeiladu dau flocws carreg, wedi’u harfogi â gynnau, i warchod y fynedfa i ddyfrffordd strategol holl bwysig Aberdaugleddau. Dyma’r adeg pan oedd Prydain yn ofni bod Ffrainc a Sbaen yn ceisio goresgyn y wlad. Mae’n debygol nad oedd Blocws y Gorllewin, ar y lan gyferbyn, na Blocws y Dwyrain, erioed wedi’u cwblhau.

Mae erydiad y glannau wedi dinistrio llawer o adeiladwaith Tuduraidd Blocws y Dwyrain, ond mae un wal yn dal i sefyll ynghyd â chornel a phen pellaf y wal gyfagos.

Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro (rhan o Lwybr Arfordir Cymru) hefyd yn mynd heibio i amrywiol weddillion magnelfa Blocws y Dwyrain, a adeiladwyd yn ystod blynyddoedd cyntaf yr ugeinfed ganrif a’u diweddaru wrth i’r galw a’r dechnoleg newid. Cafodd amrywiol ynnau mawrion eu gosod yma hyd at 1944. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu awyrennau’r Almaen yn ymosod ar iard longau’r llynges yn Noc Penfro gerllaw. Hyd yn oed bryd hynny, nid oedd angen Blocws y Dwyrain i amddiffyn y glannau ond cafodd ei ddefnyddio fel lle ymarfer. Cafodd dau wn chwe-modfedd y fagnelfa (roedd tyllfedd y barilau yn 15cm o led) eu symud yn 1941 i Fagnelfa Lavernock, ger Penarth.

Cafodd y gynnau olaf un eu symud oddi yno yn 1944, a’r ffrwydron oedd yn weddill yn 1947. Bu gorsaf radar yn parhau i weithredu yma hyd at ddiwedd yr 1990au.

Cyfeirnod Grid: SM84210274   Map

Gwefan Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button