Grave of John Evans, Y Bardd Cocos, Menai Bridge

menai_bridge_grave_bardd_cocosJohn Evans, Y Bardd Cocos (d.1888)

John Evans was born in Porthaethwy (later known as Menai Bridge) in the 1820s. He didn’t know when he was born, but according to his gravestone he was 65 years old when he died in September 1888.

He achieved fame as a poet whose verses were universally derided. He was convinced, however, that they were great poetry. He was known as Y Bardd Cocos (“The Cockle Bard”) because he earned his living mainly by selling cockles, although he also sold one-penny leaflets of his printed verses.

He was encouraged by locals, who proclaimed him the “princely arch-cockle bard” and supplied regalia, including a hat with coloured beads, which he wore at cultural events. They were instrumental in his decision to ask Queen Victoria to marry him.

His most famous ditty describes the stone lions at each end of the Britannia Bridge. You can read about it, and hear the verse, on our page about the stone lions.

Typical of his work is this tribute to Wales’ highest mountain:
Mae y Wyddfa’n fynydd hynod o fawr,
Yn uwch ar y top nag a yw ar y llawr.

This translates as:
Snowdon is a very large mountain,
Higher at the top than it is at the bottom.

He lived at Penyclip, which was a farm near Druid Road (Ffordd Penclip in Welsh). It’s thought that his home was a farm workers’ cottage, now incorporated into a house called Ael y Bryn.

Return to Church Island graveyard page

 

 

Bedd John Evans, Y Bardd Cocos

Cafodd John Evans ei eni ym Mhorthaethwy yn y 1820au. Nid oedd yn gwybod pryd yn union y cafodd ei eni, ond yn ôl ei garreg fedd roedd yn 65 mlwydd oed pan fu farw ym Medi 1888.

Roedd yn enwog fel awdur cerddi a gafodd eu dilorni. Roedd yn argyhoeddedig, fodd bynnag, eu bod yn weithiau dwys. Cafodd ei adnabod fel Y Bardd Cocos oherwydd ei fod yn ennill ei fywoliaeth yn bennaf trwy werthu cocos. Roedd hefyd yn gwerthu rhai o’i gerddi wedi’u hargraffu ar daflenni un geiniog.

Cafodd ei annog gan bobl leol, a gyhoeddodd mai ef oedd uwch fardd dywysogaidd y cocos. Rhoddasant teyrnolion (regalia) iddo, yn cynnwys het gyda gleiniau lliw. Byddai’n ei wisgo mewn digwyddiadau diwylliannol. Roedd y teyrnolion yn allweddol i’w benderfyniad i ofyn i’r Frenhines Fictoria ei briodi.

Mae ei gerdd enwocaf yn disgrifio’r llewod carreg ar bob pen i Bont Britannia. Gallwch ddarllen am y gerdd ar ein tudalen am y llewod carreg.

Mae’r deyrnged hon i fynydd uchaf Cymru yn nodweddiadol o'i waith:
Mae y Wyddfa’n fynydd hynod o fawr,
Yn uwch ar y top nag a yw ar y llawr.

Bu'n byw ym Mhenyclip, fferm ger Ffordd Penclip (Druid Road). Credir mai bwthyn gweithwyr fferm oedd ei gartref, bellach yn rhan o dŷ o'r enw Ael y Bryn.

Yn ôl i dudalen mynwent Llandysilio