Grave of Corfanydd

menai_bridge_grave_corfanyddGrave of Corfanydd (d.1876)

Robert Herbert Williams was born in Bangor in 1805 or 1806. In 1823, while still a teenager, he composed the hymn Dymuniad which brought him to public attention. His pen name was Corfanydd.

Press play to hear the hymn, sung by Pedwarawd y Fenai (Catrin Hobson, Lis Perkins, Barry Wynne, Peredur Glyn Webb-Davies): Or, Download mp3 (680KB)

By 1848 his hymns were collected in a book called Alawydd Trefriw. One of his hymns, titled Pont Menai (“Menai Bridge”), was popular in the 1820s. A writer recalled 50 years later that it fell out of fashion because it included a small fugue (a relatively complex compositional device).

menai_bridge_portrait_of_corfanyddCorfanydd moved to Liverpool as a child and became a draper in Williamson Square. He had moved to the city as a child. As a young man, his activities included teaching congregational singing to members of Welsh chapels in the city. Later he turned his attention from music to literature, writing for Y Faner and other periodicals. He took a great interest in the history of Liverpool’s Welsh community. He was also noted for his beard, as shown in the photo (right) from the National Library of Wales.

He lived for a while in Drogheda, Ireland. He retired to Menai Bridge c.1869, to a house which he named Corfandy. He took part, as contestant or adjudicator, in many local literary competitions. In April 1876 he was a referee at a spelling bee, where contestants had to spell given words in Welsh and English.

His son R Griffith Williams, a London barrister and QC for the County Palatine of Lancaster (including Manchester), collapsed and died in October 1875 while walking towards Pwllheli station to catch a train to London.

Commentators said that Corfanydd never got over the shock his son’s death. He died the following year, in November 1876. Surprisingly, in view of his literary interests, Corfanydd’s grave inscription is in Latin and English rather than Welsh.

Return to Church Island graveyard page

 

Bedd Corfanydd (m.1876)

Ganed Robert Herbert Williams (Corfanydd) ym Mangor ym 1805 neu 1806.  Ym 1823, tra'n dal yn ei arddegau, cyfansoddodd yr emyn-dôn Dymuniad a ddaeth ag ef i sylw’r cyhoedd. 

Gwelwch uchod i glywed yr emyn yn cael ei chanu gan Pedwarawd y Fenai (Catrin Hobson, Lis Perkins, Barry Wynne, Peredur Glyn Webb-Davies): Neu, Lawrlwythwch mp3 (680KB).

Ym 1848 casglwyd ei emynau at ei gilydd mewn cyfrol o’r enw Alawydd Trefriw. Roedd un o'i emynau, Pont Menai, yn boblogaidd iawn yn y 1820au. Roedd un awdur yn cofio 50 mlynedd yn ddiweddarach bod yr emyn-dôn wedi dod yn amhoblogaidd am ei bod yn cynnwys ffiwg byr (dyfais gyfansoddiadol gymharol gymhleth). 

Symudodd Corfanydd i Lerpwl fel plentyn, ac fel dyn ifanc aeth yn ddilledydd yn Sgwâr Williamson. Ar yr un pryd roedd yn dysgu canu cynulleidfaol i aelodau o gapeli Cymreig y ddinas. Yn ddiweddarach, trodd ei sylw o gerddoriaeth i lenyddiaeth, ac ysgrifennodd i’r Faner a chyfnodolion eraill. Cymerodd ddiddordeb mawr yn hanes cymuned Gymreig Lerpwl. Roedd yn enwog am ei farf, fel y gwelir yn y llun (uchod) o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Bu Corfanydd yn byw am gyfnod yn Nrogheda, Iwerddon. Ymddeolodd i Borthaethwy tua1869, i dŷ a alwodd yn Corfandy. Cymerodd ran, fel cystadleuydd neu fel dyfarnwr, mewn nifer o gystadlaethau llenyddol lleol. Ym mis Ebrill 1876 bu’n ddyfarnwr mewn cystadleuaeth sillafu, lle roedd y cystadleuwyr yn gorfod sillafu geiriau a roddwyd iddynt yn Gymraeg a Saesneg. 

Mab Corfanydd oedd R Griffith Williams, bargyfreithiwr yn Llundain a Chwnsler y Frenhines dros Caerhifryn (yn cynnwys Manceinion). Syrthiodd yn farw ym mis Hydref 1875 wrth gerdded tuag at orsaf Pwllheli i ddal y trên i Lundain. Yn ôl rhai oedd yn ei adnabod, ni ddaeth Corfanydd erioed dros y sioc o golli ei fab a bu farw ym mis Tachwedd y flwyddyn ganlynol, 1876. Mae’n syndod, o ystyried ei ddiddordebau llenyddol, bod y geiriau ar garreg fedd Corfanydd yn Lladin ac yn Saesneg, yn hytrach na Chymraeg.

Dychwelwch i dudalen mynwent Ynys Tysilio