Hen ysbyty'r chwarel

Hen ysbyty'r chwarel, Parc Gwledig Padarn

Adeiladwyd yr ybsyty hwn yn 1860 gan berchnogion chwarel lechi Dinorwig, yn rhannol er lles y gweithwyr ond hefyd i leihau'r amser y byddai chwarelwr i ffwrdd o’i waith ar ôl damwain. Roedd y daith i'r ysbyty ym Mangor ac yn ôl yn araf y dyddiau hynny. Roedd y chwarel yn le peryglus i weithio, a byddai chwarelwyr byth yn medru gweithio eto ar ôl rhai damweiniau. Dioddefodd eraill anafiadau megis torri esgyrn neu golli bysedd.

Disodlodd yr ysbyty un cynharach ger Allt Ddu ac roedd ganddo theatr llawdriniaeth ei hun ar gyfer gweithdrefnau fel torri i ffwrdd braich neu fys. Ym 1900 hwn oedd un o'r ysbytai cyntaf ym Mhrydain i dderbyn peiriant pelydr-X, rwan yn rhan o’r arddangosfa yn yr amgueddfa sydd bellach yn meddiannu'r adeilad. Rhoddwyd y gorau i redeg ysbyty ar y safle gyda seflydu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948, ond parhoadd yr adeilad fel canolfan cymorth cyntaf hyd nes i'r chwarel gau yn 1969.

Roedd yr ail oruchwyliwr yma, Dr Thomas Hughes, yn cymudo i'r ysbyty ar hyd lôn a arweiniodd i lawr yr allt o'i dŷ, sef Hafoty. Daeth y lôn, sy'n dal i'w gweld yn y coed, i gael ei galw'n 'Ffordd y Doctor'.

Ym 1890 daeth llawfeddyg newydd at yr ysbyty, Robert Mills-Roberts (1862-1935). Roedd yn hanu o Benmachno, ger Betws-y-coed. Roedd wedi chwarae pêl-droed (fel gôl-geidwad) dros Brifysgol Aberystwyth, ac ymunodd â Preston North End ym 1888. Yn ei dymor cyntaf ennillodd y clwb y bencampwriaeth heb golli’r un gêm. Yn y flwyddyn olynol, roedd yn aelod o'r tîm Preston a enillodd yr FA Cup. Chwaraeodd dros Gymru wyth gwaith. Yn ei 30au hwyr, buodd yn ymladd gyda'r Fyddin Brydeinig yn Rhyfel y Boer.

Fel meddygon eraill yma, roedd ei benodiad o dan reolaeth rheolaeth y chwarel. Nid oedd Dr Mills Roberts yn dyst cwbl annibynnol mewn ymholiadau swyddogol. Roedd ganddo ddata a ddangosai bod afiechydon yr ysgyfaint yn llawer mwy cyffredin mewn chwarelwyr nag mewn dynion eraill. Anfonodd y ffigurau at reolwr y chwarel ym 1893 gyda’r cyngor i “eistedd arnyn nhw”.

Bu’n byw am sawl blwyddyn yng nghymuned Pendraw, ar gyrion gorllewinol y chwarel, ac yn cynnal dosbarthiadau’r Groes Goch yn Llanberis. Aeth sawl merch a fynychodd ymlaen i weithio mewn ysbytai milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu farw un ohonyn nhw, Jennie Williams, o niwmonia yn gynnar yn 1919 yn yr ysbyty yn Ffrainc lle roedd hi wedi gweithio. Cliciwch yma i gael ein tudalen er cof amdani. Fe wnaeth meddygon o’r feddygfa yn y pentref hefyd helpu i drin chwarelwyr a anafwyd, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am Coed Doctor.

Côd Post: LL55 4TY    Map

Gwefan Parc Gwledig Padarn

Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail previous page in tournext page in tour