Cyn-dŷ Harold Lowe o'r Titanic

Cyn-dŷ Harold Lowe, swyddog ar yr RMS Titanic, Deganwy

Pumed Swyddog yr RMS Titanic oedd Harold Lowe. Suddodd y llong yn 1912 ar ei mordaith cyntaf. Clodforwyd Mr Lowe ar ôl y trychineb am iddo ddychwelyd efo’i fad achub at y man lle’r oedd y llong wedi diflannu. Yno, fe dynnodd pedwar dyn ychwanegol o’r dŵr. Wedyn achubodd mwy o fywydau trwy fynd â’i fad draw at ddau o fadau achub y Titanic a oedd yn medru plygu. Mae dramau am y trychineb wedi portreadu Mr Lowe fel arwr, yn cynnwys y ffilm ym 1997 lle y chwaraeodd y Cymro Cymraeg Ioan Gruffudd ran Mr Lowe.

Ganwyd Harold Godfrey Lowe ym Mryn Lupus, Deganwy, ym 1892. Gwariodd y rhan fwyaf o’i blentyndod yn Harlech ac Abermaw. Y cofnod cyntaf sydd gennym ohono ar fwrdd llong ydi fel llongwr cyffredin ym 1900. Ymunodd â’r White Star Line ym 1911, ac apwyntiwyd ef yn Bumed Swyddog ar yr RMS Titanic newydd y flwyddyn olynol. Ym 1913 fe briododd Ellen Marian Whitehouse ac aeth i fyw yn nhŷ ei theulu ym Mae Colwyn. Bu’n gwasanaethu efo adfyddin y Llynges Frenhinol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ailymunodd â’r White Star Line ym 1919.

Rhoddodd Mr Lowe y gorau i waith ar y môr ym 1931 a symudodd i’r tŷ hwn, 1 Marine Crescent, Deganwy. Ei ddiddordebau oedd cychod, pysgota a saethu. Bu’n aelod o Gyngor Bwrdeistref Conwy am ddau dymor, ac yn oruchwyliwr yn Eglwys yr Holl Saint, Deganwy. Gyda chychwyn yr Ail Ryfel Byd, ymrestrodd fel warden i warchod rhag cyrchoedd awyr. Cafodd drawiad (strôc) ym 1942 a bu farw ym 1944. Dengys ei dystysgrif marwolaeth iddo ddioddef gorbwysedd (“hypertension”) a “cerebral haemorrhage malaria (chronic)”. Mae’n debyg iddo gael ei heintio efo malaria tra’n hwylio o gwmpas Affrica pan yn ddyn ifanc.

Côd post: LL31 9DA    Map

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button