Safle gorsaf reilffordd Ystradgynlais

PWMP logo sign-out

Safle gorsaf reilffordd Ystradgynlais

Roedd gorsaf reilffordd Ystradgynlais yn arfer meddiannu tir yn y cyffiniau yma. O’r 1870au tan y Rhyfel Byd Cyntaf, byddai teithwyr yn teithio’n uniongyrchol o’r fan yma i Birmingham!

Cafodd yr orsaf ei hagor gan gwmni Rheilffordd Swansea Vale, a oedd wedi trawsnewid amrywiol dramffyrdd (lle’r oedd ceffylau yn tynnu wagenni ar gledrau amrwd) yn rheilffyrdd. Roedd ei brif linell, a gwblhawyd yn 1868, yn cysylltu Abertawe gyda Brynaman, trwy Ystalyfera. Roedd Gorsaf Ystradgynlais, a adwaenwyd fel Ynyscedwyn tan yr 1890au, ar linell eilaidd oedd yn dargyfeirio yn Ynysgeinon ac yn ymuno â rheilffordd Castell-nedd i Aberhonddu yng Nghoelbren (i’r dwyrain o Abercraf).

Yn 1874, cymerwyd yr awenau oddi wrth Reilffordd Swansea Vale gan Midland Railway a leolwyd yn Derby. Ei ddiddordeb pennaf oedd cludo nwyddau o ddiwydiannau trwm yn ardal Abertawe, ond roedd hefyd yn darparu gwasanaethau i deithwyr a gwasanaethau post.

Collodd Herbert de la Haye, yr orsaf feistr yn Ystradgynlais, ei fab, Cyril yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Addysgwyd Cyril yn Ysgol Sirol Ystradgynlais a Phrifysgol Caerdydd. Roedd yn Feistr Sgowtiaid gyda Mintai Penrhiwfarteg cyn ymuno â’r Ffiwsilwyr Brenhinol. Trosglwyddwyd ef i’r Peiriannwyr Brenhinol yn 1915, lle’r oedd yn gorporal ac yn is-gapten yn ddiweddarach.

Lladdwyd Cyril ar faes y gad yn Ffrainc, yn 24 mlwydd oed, ym mis Mai 1918. Roedd Hubert, ei frawd yn Breifat gyda Chorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin ac fe oroesodd y rhyfel.

Cafodd y Midland Railway ei amsugno i mewn i London, Midland & Scottish Railway (LMS) yn 1923. Fe wnaeth LMS roi’r gorau i ddefnyddio llinell Ynysgeinon i Goelbren yn 1931. Camodd y Great Western Railway i mewn, ond gwaredwyd â’r gwasanaeth i deithwyr yn 1932. Roedd y trac trwy Ystradgynlais yn parhau mewn defnydd gan drenau nwyddau tan yr 1960au. Mae llwybr y rheilffordd yn llwybr seiclo a cherdded poblogaidd erbyn hyn.

Gyda diolch i Chris Bowen

Cod post: SA9 1PN    Map

I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i lawr ar hyd Station Road, gan fynd heibio i Heol y Gwaudd a Maescynog. Lleolir yr orsaf heddlu lle mae’r ffordd yn troi i’r chwith
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button