Y Senedd

Y Senedd

Pwyswch i glywed darlleniad o'r dudalen gan RNIB Cymru
Neu, lawrlwythwch mp3 (1.42MB)

Agorwyd y Senedd yn 2006 i ddarparu siambr drafod gyfoes ar gyfer Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd). Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer enwog Richard Rogers, ac mae hefyd yn cynnwys tair ystafell bwyllgor. Mae oriel gyhoeddus uwchben yr ystafell yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i wylio Aelodau'r Senedd yn ystod sesiynau llawn. Nodwedd o'r tu mewn yw’r nenfwd donnog o gedrwydd coch gorllewinol.

Ffurfiwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, o ganlyniad i’r refferendwm ar ddatganoli ym 1997.

Cyflwynodd y Brenin Harri VIII ddeddf ym 1536 (a alwyd y “Ddeddf Uno” yn ddiweddarach) a ddaeth a llywodraethu a chyfraith Cymru o dan rhai Lloegr, gydag Aelodau Seneddol Cymru yn eistedd yn Senedd San Steffan. Yn y 19eg ganrif, dechreuodd rhyddfrydwyr radicalaidd i ledaenu syniadau am Gymru fel endid gwleidyddol. Ym 1907 crewyd adran Gymreig o fewn y Bwrdd Addysg. Dilynwyd hyn gyda darpariaeth debyg ar gyfer iechyd, tai a llywodraeth leol. Mae’r paentiad Deffroad Cymru, sydd yn nghasgliad celf Cyngor Tref Brenhinol Caernarfon, yn cyfleu ymateb artistig o’r cyfnod.

Ym 1964, penodwyd Ysgrifennydd Gwladol Cymru am y tro cyntaf. Yr oedd yn aelod o Gabinet y DU ac yn rheoli, trwy’r Swyddfa Gymreig, gwariant y llywodraeth ar dai, ffyrdd, yr iaith, cynllunio a llywodraeth leol yng Nghymru. Ychwanegwyd at y swyddogaethau hyn yn ddiweddarach. Roedd gan y Swyddfa Gymreig gyllideb flynyddol o £7bn erbyn 1997, pan bleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru o drwch blewyn i ddod â swyddogaethau'r Swyddfa Gymreig o dan reolaeth Cynulliad etholedig.

Cynhaliwyd etholiadau cyntaf y Cynulliad ym mis Mai 1999 gan ddychwelyd 60 aelod etholedig, 40 ohonynt yn cynrychioli etholaethau gyda'r un ffiniau ag etholaethau San Steffan. Roedd yr eraill yn cynrychioli pum etholaeth ranbarthol ac wedi cael eu hethol drwy'r System Aelod Ychwanegol, sydd â'r nod o ddyrannu seddi yn y Cynulliad yn gymesur â'r pleidleisiau a fwriwyd dros bob prif blaid.

O 1999 tan i’r Senedd agor, cynhaliwyd sesiynau llawn y Cynulliad yn Nhŷ Crughywel (bellach y tu ôl i'r Senedd, ac wedi’i ailenwi Tŷ Hywel), sef hen gartref Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru. Heddiw mae Tŷ Hywel yn darparu swyddfeydd ar gyfer Aelodau'r Senedd, eu staff a gweision sifil. Ar 6 Mai 2020, newidiodd y Cynulliad enw'r sefydliad i Senedd Cymru, i hadlewyrchu eu ddylanwad i ddeddfwriaethu dros pobl Cymru.

Côd post: CF99 1NA    Map

Gwefan Senedd Cymru

Diolch i RNIB Cymru am fersiwn sain y dudalen hon

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation next button