Maes ffrwydron o gyfnod y rhyfel ger Marros

Maes ffrwydron o gyfnod y rhyfel ger Marros

marros_former_minefield

Yn yr ardal hon mae Llwybr yr Arfordir yn ein tywys trwy faes ffrwydron o gyfnod yr Ail Ryfel Byd. Mae’r tyllau a adawyd gan y frwydron yn gwbl amlwg. Nid oes rheswm dros boeni y gallech ddamsang ar ddyfais sydd heb ffrwydro – gwnaed y safle gyfan yn ddiogel wedi i’r bygythiad ddod i ben.

Yn fuan wedi’r rhyfel, tynnwyd yr awyrlun ar y dde gan y Llu Awyr. Fe’i hatgynhyrchir yma gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Mae’r tyllau yn amlwg yn y canol. Dros gyfnod o ddegawdau mae llystyfiant wedi meddiannu’r safle fesul dipyn.

Nid yw Sir Gaerfyrddin yn ymddangos yn llecyn delfrydol ar gyfer trefnu ymosodiad ar Brydain – a dyna’r union reswm yr aed ati i amddiffyn y glannau hyn ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel. Deallai  llywodraeth Prydain y gallai ymosodiad sydyn o du’r môr roi mantais i’r gelyn. (Canolbwyntiodd cyrchoedd llwyddiannus D-Day yn 1944 ar draethau ardaloedd gwledig yn Normandi yn hytrach nag ar borthladdoedd cydnabyddedig yn Ffrainc.)

Byddai ehangder Traeth Marros yn fan glanio delfrydol i luoedd yr Almaen. Byddai’r arfordir tua’r de yn llwybr naturiol er mwyn iddynt allu osgoi llethrau serth a chreigiau ynghyd â mynedfa gul hawdd i’w hamddiffyn. O’r fan hon, mae’n debygol y byddai’r milwyr wedi dewis dilyn llwybr tua’r gogledd i gyfeiriad Fferm Garness. Mae’n egluro, o bosibl,  pam y gosodwyd cynifer o ffrwydron ar lain o ryw 300 – 400 can medr yn y fan hon.

Petai’r ymosodwyr wedi llwyddo i gael troedle yng ngorllewin Cymru, byddai rhaid iddynt wynebu her arall. Byddai lluoedd Prydain wedi gallu ynysu’r ardal a oedd wedi ei meddiannu gan y gelyn rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi. Byddai’r tirwedd ynghyd â’r amddiffynfeydd wedi cynorthwyo lluoedd y Cynghreiriaid i atal byddin yr Almaen.

Gyda diolch i Jason Lawday, ac i'r Athro Dai Thorne amy cyfieithiad

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button