Gwesty'r Lion, Y Drenewydd

button-theme-crime PWMP logo

Gwesty'r Lion, Y Drenewydd

Mae'r adeilad rhestredig hwn yn dyddio o ganol y 18fed ganrif. Roedd yn dal i fod yn dafarn bostio, gyda'i stablau ei hun, ym 1910, pan gawsai ei hysbysebu fel gwesty “teuluol a masnachol”.

Mae'r darlun o lew uwchlaw'r ffordd gerbydau i'r iard gefn, yn dyddio o'r 19eg ganrif. Hefyd ar y wal flaen gallwch weld plac yn dangos olwyn asgellog. Fe'i gosodwyd yno gan y Clwb Seiclwyr yn yr 1930au.

Ym 1905, fe wnaeth lleidr ddwyn bron i £4 a bar o sebon pinc (eitem foethus ar y pryd) o'r gwesty. Yn fuan wedyn, daeth Robert Smith, o Birmingham, o dan amheuaeth drwy ddangos ei arian a defnyddio sebon pinc persawrus yn y Trallwng. Ddeufis yn ddiweddarach gadawodd lety yng Nghroesoswallt, gan adael mymryn o sebon pinc ar ei ôl - a arweiniodd at iddo gael ei gollfarnu yn y brawdlys yn Rhuthun. Roedd hefyd wedi dwyn arian o gartref yn Llanidloes. Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar.

Rhwng 1893 a 1896, roedd Gwesty'r Lion yn cael ei redeg gan Charles Clement Jones a'i wraig Sarah. Ganwyd eu mab, Eric Charles Jones, ym 1895. Roedd John, tad Charles, yn gyfreithiwr yn y Drenewydd. Ymfudodd ei frawd, E.H. Jones, i Cape Town, De Affrica, yn 1892 ac ymunodd â'r gwasanaeth sifil. Mewn partneriaeth â William Stokes o'r New Inn, roedd gan Charles gwmni o'r enw Stokes & Jones, a oedd yn cynhyrchu dŵr mwynol ac yn delio mewn poteli cwrw a chordial.

Fel dyn ifanc, ymfudodd Eric i Cape Town hefyd. Roedd yn chwaraewr rygbi ac yn hoff iawn o feiciau modur. Ymrestrodd yn y fyddin ym 1915 ac roedd yn un o'r milwyr a ddewiswyd i fod yn warchodwr ar gyfer ymweliad y Brenin ag Aldershot ym 1916. Bu farw Eric, 21 oed, ar Ffrynt y Gorllewin yn rhanbarth Pas de Calais yn Ffrainc. Fe'i claddwyd ym Mynwent Brydeinig Warlencourt ac mae’n cael ei goffáu ar gofeb rhyfel Y Drenewydd.

Cod post: SY16 2LR    Map

Gwefan gwesty'r Lion (Facebook) 

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua'r gogledd ar hyd Stryd y Bont Fer. Croeswch y ffordd a throwch i’r dde i Stryd Hafren. Mae’r codau QR nesaf ar y dde, yn union cyn y troad.
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button