Y Gyfnewidfa Ŷd, Crughywel

PWMP logoY Gyfnewidfa Ŷd, Crughywel

crickhowell_corn_exchange_inn

Dyddia’r rhan fwyaf o’r adeilad hwn o oddeutu 1800, ond mae’n ymgorffori rhywfaint o adeilad hŷn o’r 17eg ganrif. Tafarn oedd hi tan 2015. Mae’r hen ffotograffau (drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch) yn dangos yr adeilad tua 1900 ac oddeutu 1915.

Herbert Lovesey a ddaeth yn dafarnwr y Gyfnewidfa Ŷd ym 1917.  Fe’i gwysiwyd i dribiwnlys milwrol ym mis Awst 1918 am osgoi consgripsiwn i’r lluoedd arfog. Yn 43 oed, roedd gan y tad i bump o blant fam weddw 80 oed i’w chynnal. Gweithiai yn y diwydiant arfau yng Nglynebwy a chwympo coed yn ogystal â chadw’r dafarn. Dyfarnodd y tribiwnlys y dylai ymuno â’r lluoedd arfog.

crickhowell_corn_exchangeYn y 1920au, William Jones a ddaeth yn dafarnwr y Gyfnewidfa Ŷd. Yn nes ymlaen, cymerodd ei fab, a elwid hefyd yn William, drosodd y drwydded er iddo gael ei anafu yn y rhyfel gan gael ei blagio gan glwyf mawr i’w glun chwith. Byddai’n rhaid i’w wraig Katie, drin ei glwyf diferol bob bore.

Yn cael ei adnabod fel “Billy the Corn”, bu farw ym 1937. Canfu ymchwiliad post mortem yng Nghaerdydd mai achos ei farwolaeth oedd lludded yn dilyn gollwng cronig o glwyfau ‘a achoswyd gan anafiadau a gafwyd yn ystod gwasanaeth milwrol’. Roedd brodyr a chwiorydd Billy eisoes wedi marw (tri ohonynt pan oeddent yn fabanod ac un wrth eni plentyn). Goroesodd ei rieni, William a Mary, bob un o’u plant.

Bu olyniaeth o fragdai’n berchen ar y Gyfnewidfa Ŷd, gan gynnwys Hancock’s o Gaerdydd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Yn 2015, cyhoeddodd Punch Taverns eu bod am droi’r adeilad yn archfarchnad ond cafwyd protestiadau gan fasnachwyr a thrigolion ynglŷn â’r effaith a gâi’r siop ar fusnesau annibynnol y dref. Ffurfiwyd cwmni cyfyngedig gyda 180 o gyfranddalwyr lleol. Codwyd bron i £750,000 i brynu ac ailwampio’r adeilad.

crickhowell_corn_exchange_prince_charlesAilagorwyd y Gyfnewidfa Ŷd ym mis Gorffennaf 2018 gan y Tywysog Charles (llun ar y chwith). Erbyn hyn ceir yno siopau ar y llawr gwaelod a fflatiau uwchben.

Gyda diolch i Gasgliad Chris Lewis o Ganolfan Archifau Crughywel a’r Cylch ac i Tim Jones

Cod post: NP8 1BH    Map

 

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, cerddwch i lawr y Stryd Fawr at Stryd y Tŵr. Mae’r codau QR nesaf ar yr arwydd ar gornel y stryd
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button