Lleoliad gemau prawf criced, Gerddi Sophia, Caerdydd

Glamorgan county cricket club logo

Mae’r SSE SWALEC yn cynnal criced rhyngwladol, a chwaraewyd y gêm brawf gyntaf erioed yng Nghaerdydd yma rhwng Awstralia a Lloegr ym mis Gorffennaf 2009, a orffennodd yn gyfartal. Roedd hon y gyntaf o bum gêm yng nghyfres y Lludw rhwng Awstralia a Lloegr – gweler isod i gael rhagor o wybodaeth am y Lludw.

Mae tîm criced Lloegr yn cynrychioli Cymru yn ogystal â Lloegr. Corff llywodraethu’r gamp yw Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, a sefydlwyd ar ei ffurf bresennol ym 1997. Daeth penderfyniad y bwrdd i gynnal gemau prawf yng Nghaerdydd ar adeg pan oedd CCS Morgannwg yn uwchraddio eu cyfleusterau a chynyddu capasiti’r tir.

Cymerodd 60 wythnos i adeiladu’r stadiwm £16m newydd yn 2007 a 2008. Mae gan yr adeiledd 130 tŷ bach, 207 drws a 422 paen o wydr. Mae hefyd 1.1km o ddraeniau tanddaearol a 7km o geblau dan y ddaear.

Mae tua 30 o bobl yn gweithio’n rheolaidd yn y stadiwm. Mae’r nifer hon yn cynyddu gan 1,500 ar ddiwrnodau chwaraeon mawr, pan fydd gweithwyr dros dro’n gweithio yma.

Mwy am gyfres y Lludw:

Mae Awstralia a Lloegr yn cystadlu am y Lludw gyda chyfres pum gêm, tua chwe gwaith y ddegawd, naill ai yn Awstralia neu Brydain. Daw’r enw am y gyfres gystadleuol o stori ramant. Dechreuodd gyda choflith dychanol gan Reginald Shirley Brooks, gohebydd o Lundain, ym 1882 ar ôl colled gyntaf Lloegr gartref i Awstralia. Ysgrifennodd fod criced Seisnig wedi marw ac "y caiff y corff ei losgi a mynd â’r lludw i Awstralia”. Y gaeaf canlynol, tra roedd y tîm yn chwarae yn Awstralia, cyflwynodd merch serchus botel persawr deracota fechan i gapten y Saeson, gyda lludw ynddi. Priododd y ddau a daethai’r wrn Lludw’n symbol eiconig i’r gyfres rhwng Awstralia a Lloegr.

Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg

Gwefan Awyr Agored Caerdydd

Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap

Glamorgan cricket club  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 11 (coch) ar y map isod.

 cricket-walk-map