Eglwys Dewi Sant, Y Drenewydd

PWMP logobutton-theme-womenEglwys Dewi Sant, Y Drenewydd

Adeiladwyd yr eglwys hon yn yr 1840au i ddisodli Eglwys gynharach y Santes Fair, a oedd wedi dioddef difrod llifogydd. Mae’r dyfrlliw gan John Ingelby (drwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) yn dangos Eglwys y Santes Fair yn 1794.

newtown_st_marys_churchAdnewyddwyd Eglwys Dewi Sant yn yr 1870au ac fe'i caewyd yn 2006 oherwydd y costau uchel o’i chynnal a’i chadw. Roedd rhai o'r ffitiadau a'r cofebion y tu mewn i'r eglwys yn flaenorol yn Eglwys y Santes Fair. Roeddent yn cynnwys sgrin gerfiedig o'r 15fed ganrif a ffont ganoloesol.

Mae saith bedd rhyfel yn y fynwent, un yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd. Gweler isod am fanylion.

Un o'r beddau rhyfel yw un Janet Elizabeth Evans, yr oedd ei rhieni'n byw yn Llanllwchaearn. Gadawodd ei swydd fel athrawes ym 1917 i ymuno â'r Army Pay Corps yng Nghaer. Yn haf 1918, ymunodd â staff clerigol Corfflu Cynorthwyol y Fyddin y Frenhines Mary. Cafodd ei tharo’n wael ac fe'i derbyniwyd i ysbyty milwrol yn Llundain. Bu farw, yn 21 oed, ar 27 Mai 1919.

Hefyd, mae Clada Jessie Downing, nyrs o'r Rhyfel Byd Cyntaf, wedi'i chladdu yma, ond nid mewn bedd rhyfel swyddogol. Fe'i ganed yn y Drenewydd yn 1889 i Thomas a Jessie Downing. Roedd y teulu'n byw yn Cambrian Villa, Ffordd Ceri. Mynychodd Ysgol Penygloddfa ac Ysgol Sir Y Drenewydd. Ar ôl hyfforddi fel nyrs yn Ysbyty Plant Birmingham, symudodd i ysbyty plant yng Nghaint a ddaeth yn ysbyty milwrol pan ddechreuodd y rhyfel. Ar ôl gorweithio dros y rhyfel, dychwelodd i'r Drenewydd i wella ond bu farw o'r ffliw, yn 28 oed, ar 10 Hydref 1918.

Gyda diolch i Grŵp Hanes Lleol Y Drenewydd

Cod post: SY16 1EE    Map

Er mwyn parhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, croeswch Ffordd Newydd a dilynwch New Church Street. Ewch heibio'r groesfan sebra ac yna mae’r gatiau coffa ar y chwith
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

War graves at St David’s Churchyard

First World War

  • Davies, George, Private 63. Died of appendicitis 05/07/1916. Royal Welsh Fusiliers. Son of David and Anne Davies, of Kerry Road. Worked as a house painter.
  • Evans, Jane Elizabeth, Worker 51329. Died 27/05/1919 aged 21. Queen Mary's Army Auxiliary Corps. Daughter of Richard and Elizabeth Ann Evans of Church House, Llanllwchaiarn.
  • Hughes, J E, Driver 213574. Died 15/11/1918 aged 34. Royal Field Artillery transferred to Labour Corps. Son of Mrs Mary Mills of New Road; husband of Mary Isabella Hughes of Dulley Bank, Llaithddu.
  • Jarman, Edward, Private M2/116500. Died 12/04/1919. Royal Army Service Corps. Son of Mr and Mrs William Jarman.
  • Phillips, Thomas Frederick Carlyle, Private 316038. Died 16/09/1918 aged 19. Cheshire Regiment transferred to Royal Defence Corps. Son of Thomas Llewellyn and Jane Phillips of Cambrian Vaults. Died of a brain abscess.
  • Williams, J, Serjeant 290047. Died 17/11/1918 aged 26. Royal Welsh Fusiliers, transferred to Labour Corps. Son of Edward and Caroline Williams of Hargreaves Court, Ladywell Street.

 

Second World War

  • Jones, Kenneth Harry, Aircraftman 1384908. Died 13/02/1943 aged 18. Royal Air Force Volunteer Reserve. Son of Roderick Protheroe and Kathleen Averna Jones of Church End, Finchley, Middlesex.