Trwyn St Ann

Trwyn St Ann

Old drawing of St Ann's Head
Hen ddarlun o Drwyn St Ann, trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dyma safle un o’r goleudai hynaf yng Nghymru. Mae’r pentir gerllaw’r fynedfa i ddyfrffordd brysur Aberdaugleddau yn coffáu Capel St Ann a godwyd ar y clogwyn yn ystod y canol oesoedd. Harri’r VII, yn ôl traddodiad, a orchmynodd godi’r capel i ddiolch am lanio’n ddiogel nid nepell i ffwrdd, ym Mill Bay, yn 1485. Oddi yno y gorymdeithiodd i Bosworth a diorseddu Richard III.

Daeth y capel yn dirnod o bwys i longwyr a oedd yn nesu at y ddyfrffordd yng ngolau ddydd. Roedd rhaid iddynt lywio’n ofalus er mwyn osgoi Crow Rock, ryw 11 cilomedr (saith milltir) i’r de-orllewin o’r trwyn. Tŵr crwn oedd i’r capel, ac yn ystod y nos mae’n bosibl bod tân yn cael ei gynnau yno yn gymorth morwrol.

Mae’r cofnodion cynharaf am oleudai ar y safle yn yn perthyn i’r ail ganrif ar bymtheg. Mae un siart yn dangos dau oleudy. Os yw’r cofnod hwnnw’n gywir, mae’n dystiolaeth gynnar o’r arfer o ddangos dau olau, gan roi i’r morwyr fesur llywio manylach pan fyddai’r golau uchaf yn union uwchben y golau isaf.

Photo of St Ann's Head in 1950
Trwyn St Ann yn 1950, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Gellir gweld olion o’r drefn honno hyd heddiw. Digomisiynwyd y goleudy talaf yn 1910 ac yn fuan wedyn cafodd ei addasu’n orsaf signalau at ddefnydd Gwylwyr y Glannau. Erbyn hyn mae’r tŵr ynghyd â’r bythynnod yn dŷ preifat.

Mae’r goleudy isaf yn dal yn weithredol. Caiff ei reoli o hirbell o Essex. Fe’i codwyd yn 1884. Disodlodd hwnnw dŵr a oedd yn nes at y môr ac yn sgil erydiad mewn perygl o ddisgyn i’r môr.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y penrhyn yn 1950. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Er gwaethaf y goleudy bu llongddrylliadau lu yn y parthau hyn: yn eu plith stemar o’r enw Tormes, o Barcelona, ar fordaith o Malaga i Lerpwl yn cario ffrwythau a gwin. Trawodd  yn erbyn Crow Rock yn 1894 a chwalu’n gyflym. Collwyd un ar hugain o blith y criw o wyth ar hugain. Saethodd un o’r swyddogion ar fwrdd y llong ei hun yn ei ben pan sylweddolodd mor anobeithiol oedd y sefyllfa. Awgrymir gan y clwyfau ar yddfau dau forwr  arall y golchwyd eu cyrff i’r lan, eu bod hwythau wedi dewis eu lladd eu hunain yn hytrach na boddi.

Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Cod post: SA62 3RS    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button