Safle maes awyr rhyngwladol Sblot

Logo for Cardiff Council

Safle maes awyr rhyngwladol Sblot

Photo of RAS plane City of Cardiff
© National Railway Museum /
Science & Society Picture Library

Pe baech chi wedi bod yn sefyll yma yn y 1930au, gallech fod wedi clywed awyrennau yn gadael ychydig i’r dwyrain ar gychwyn taith i Baris. Yr ardal y tu ôl i siop Tesco oedd safle maes awyr rhyngwladol cyntaf Caerdydd. Mae rhai o’r awyrendai, ger Seawall Road, bellach yn cael eu defnyddio gan ddiwydiannau ysgafn.

Ganed yr arloeswr awyrennau Ernest Willows (1886-1926) yng Nghaerdydd ac efe a sefydlodd faes awyr preifat Tremorfa ym 1905. Roedd yn arbrofi gydag awyrennau, ac fe hedfanodd un ohonynt i Baris ym 1910. Bu farw pan gafodd un o’i awyrennau ddamwain.

Railway Air Services poster
© National Railway Museum /
Science & Society Picture Library

Enwyd Erodrom sifilian Sblot ar ôl yr ardal breswyl i’r gorllewin o Dremorfa, ac fe’i hagorwyd ym 1931. Cafodd ei ailenwi yn Faes Awyr Trefol Caerdydd yn nes ymlaen.Ar y dechrau, roedd British Air Navigation yn hedfan rhwng Bryste a Chaerdydd. Yn Ebrill 1933 cychwynnodd y Great Western Railway deithiau hedfan o Sblot i Haldon a Plymouth. Dechreuodd y teithiau i Baris a Le Touquet yn Ffrainc ym mis Mai 1935.Mae’r llun uchod yn dangos awyren y Railway Air Services yn y 1930au. Enw’r awyren oedd City of Cardiff. Mae’r poster ar y chwith yn hysbysebu gwasanaethau awyr GWR o Gaerdydd a mannau eraill.

Wrth i’r rhyfel agosáu, daeth y maes awyr yn gartref i Lu Awyr Cynorthwyol Morgannwg, a chafodd enw newydd eto fyth, maes awyr RAF Pengam Moors y tro hwn. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwnaed gwaith pwysig yn y maes awyr, yn datgymalu a thrwsio awyrennau ymladd oedd wedyn yn cael eu cludo ar y môr i’r mannau lle roedd angen.

Ar ôl y rhyfel, daeth yn amlwg bod y rhedfa yn rhy fyr i’r awyrennau mawr oedd yn cael eu cyflwyno erbyn hynny, a doedd dim lle i ehangu. Symudwyd yr hediadau i’r Rhws, i’r gorllewin o’r Barri, lled roedd maes awyr masnachol newydd, ym 1954.

I’r dwyrain o’r fan hon, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd Rover Way, a gafodd ei enw ar ôl y ffatri ceir Rover oedd yn Nhremorfa o’r 1960 tan y 1980au.

Map

Gwefan Llyfrgell Luniau Gwyddoniaeth a Chymdeithas – printiau ar gael o’r lluniau uchod a llawer mwy.