Cartref CCS Morgannwg, Gerddi Sophia

Glamorgan county cricket club logo

Gerddi Sophia yw cartrefi Clwb Criced Sirol Morgannwg ers 1967. Sefydlwyd y Clwb ym 1888 a chwaraeodd ei gêm ryngserol gyntaf yn erbyn Swydd Warwig ym 1889. Y lleoliad oedd Parc yr Arfau.

Photo of Jack Brain of Glamorgan County Cricket Club
Jack Brain

Yn y 1890au datblygodd y Clwb yn gyflym, dan arweiniad Jack Brain. Roedd yn berthynas i Samuel Arthur Brain, a oedd newydd gymryd drosodd yr Hen Fragdy yn Heol Eglwys Fair, Caerdydd. Cawsai Jack yrfa lwyddiannus â Swydd Gaerloyw cyn symud i dde Cymru i reoli’r bragdy. Daeth yn gapten ac yn ysgrifennydd Morgannwg ym 1891. Defnyddiai ei allu a’i gysylltiadau busnes i sicrhau chwaraewyr gwell, gan gynnwys sawl chwaraewr proffesiynol, i’r Clwb.

Chwaraewr proffesiynol llawn amser cyntaf Morgannwg oedd Billy Bancroft o Abertawe, a chwaraeai rygbi dros Gymru hefyd. Ddwy flynedd ar ôl ei benodi, esgynnodd y Clwb i’r Is-bencampwriaeth Sirol ym 1897. Enillodd y bencampwriaeth hon ar y cyd ym 1900.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, lle gwasanaethodd nifer o chwaraewyr Morgannwg a bu farw rhai, esgynnodd y Clwb i statws dosbarth cyntaf ym 1921. Roedd y ddau ddegawd canlynol yn rhai anodd i’r Clwb ond gwellodd pethau ar ôl yr Ail Ryfel Byd dan arweiniad Wilf Wooller, cyn-chwaraewr rygbi dros Gymru a ddychwelodd o’i gaethiwed lem yn un o Wersylloedd Rhyfel Siapan. Dan ei gapteiniaeth, enillodd Morgannwg y Bencampwriaeth Sirol ym 1948.

Photo of Glamorgan cricket team in 1908
Tîm 1908 Morgannwg

Y 1960au oedd efallai degawd gorau’r Clwb ar y cae, gyda dwy fuddugoliaeth dros Awstralia (1964 a 1968) ac ennill y Bencampwriaeth Sirol ym 1969. Dyma hefyd y degawd pan symudodd y Clwb i Erddi Sophia wrth waith ddechrau ar godi’r Stadiwm Genedlaethol ym mhen deheuol Parc yr Arfau.

Gwefan Clwb Criced Sirol Morgannwg

Gwefan Awyr Agored Caerdydd

Angen cymorth i weld lleoliad Gerddi Sophia? Cliciwch yma am fap

 
Glamorgan cricket club  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

 

Mae'r codau QR ar gyfer y dudalen hon yn safle rhif 1 (coch) ar y map isod.

 cricket-walk-map