Safle neuadd y dref, Machynlleth

PWMP logobutton-theme-crimeSafle neuadd y dref, Machynlleth

Adeiladwyd neuadd y dref ar y safle hwn ym 1872 yn lle neuadd gynharach (gweler disgrifiad ohoni ar y dudalen am gloc y dref). Roedd yr adeilad newydd, ar dir a roddwyd gan yr Iarll Vane a Syr Watkin Williams-Wynn, yn cynnwys theatr i fyny’r grisiau, neuadd farchnad, siopau a llety ar gyfer teulu’r gofalwr yn y cefn.

Roedd yn gartref hefyd i’r llys ynadon, oedd wedi delio gyda phigwr pocedi o’r America ym mis Awst 1898. Cyhuddwyd George Haves o Efrog Newydd a’i gydymaith benywaidd Raymonde Andrieux o Ffrainc, o ddwyn bron £8 (mwy na £1,000 o arian heddiw) gan ffermwr yng ngorsaf Machynlleth. Anfonwyd y ddau i wynebu eu gwell gerbron llys chwarter; cafodd Haves ddedfryd o 18 mis yn y carchar, a mis i’w gydymaith.

Bu cwmni neuaddau tref yn rheoli’r adeilad hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Ym 1908 cytunodd Cyngor Rhanbarth Trefol Machynlleth i brynu neuadd y dref a neuadd y farchnad.

Bu’r cigydd Joseph Holt yn byw yma gyda’i deulu fel gofalwr neuadd y dref, cyn gadael i fyw yn Awstralia. Dychwelodd Donald ei fab i Ewrop gyda lluoedd Awstralia yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth i ymweld â’r teulu a ffrindiau ym Machynlleth yn ystod seibiant o’i waith ym 1918.

Cynhaliwyd digwyddiadau codi arian yma yn ystod y rhyfel. Cynhaliwyd rhai’n benodol ar gyfer “hogie Machynlleth” yn y lluoedd arfog, rhai ar gyfer cronfeydd Cymreig neu Brydeinig. Ym 1915 codwyd dros £30 mewn cyngerdd yn neuadd y dref a gynhaliwyd er budd Cymdeithas Groes Goch Rwsia. Paratowyd cinio yn neuadd y dref yn Rhagfyr 1914 ar gyfer ffoaduriaid o wlad Belg cyn iddynt adael i fynd i lety newydd yn y dref.

Oherwydd tywydd gwael ym mis Rhagfyr 1918, bu’n rhaid cynnal “carnifal buddugoliaeth” yn neuadd y dref yn lle yn yr awyr agored. Cychwynnodd gyda milwyr a anafwyd o Ysbyty’r Groes Goch yn gorymdeithio trwy’r dref mewn gwisg ffansi. Cynhaliwyd derbyniad “croeso adref” yno ym Medi 1919 ar gyfer mwy na 100 o eglwyswyr oedd wedi dychwelyd o’r rhyfel.

Roedd neuadd y dref yn ganolbwynt i’r gymuned am ddegawdau, ond cafodd ei ddymchwel ym 1968 ar ôl darganfod diffygion gyda’r strwythur. Wedyn defnyddiwyd y safle fel depo’r cyngor nes adeiladu’r adeilad presennol yng nghanol y 1980au. Wrth gloddio ym 1983, cafwyd hyd i 4 darn o grochenwaith ac arian canoloesol dyddiedig 1770 a 1862.

Cod post: SY20 8AL    Map

I barhau â’r daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf ym Machynlleth, cerddwch tua’r de ar hyd y brif ffordd, a throwch i’r chwith i Heol Maengwyn. Ewch ymlaen nes cyrraedd senedd-dy Owain Glyndŵr ar eich chwith
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button