Safle ffatri ddeinameit, Pen-bre

button-theme-womenSafle ffatri ddeinameit, Pen-bre

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, cynhyrchwyd swmp sylweddol iawn o ffrwydron nid nepell o Lwybr yr Arfordir. Agorodd Parc Gwledig Pen-bre ar y safle yn 1980.

Roedd y tirwedd tywodlyd yn ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu deinameit. Doedd dim tai annedd ar gyfyl yr ardal ond roedd y rheilffordd gerllaw. Hawdd fyddai pentyrru tywod i reoli effaith ffrwydriadau damweiniol yng nghyffiniau’r ffatri. Yn 1881dechreuodd y Stowmarket Explosive Company gynhyrchu deinameit, ffiwsys a thaniaduron ar gyfer glofeydd a chwareli ar y safle.

Aerial photo of Pembrey ordnance factory site in 1946Yn mis Tachwedd 1882 lladdwyd pedair merch a thri bachgen rhwng 13 a 24 oed gan ffrwydriad. Yn ei sgil ysgwydwyd ffenestri ym Mhorthtywyn. Storiwyd deinameit ar y safle wedi i’r cwmni fethu yn 1885.

Agorwyd “ffatri TNT” yma yn 1915 gan Nobel’s Explosives Company o Glasgow. Cafodd hwnnw ei wladoli yn Ionawr 1917. Roedd 400 o adeiladau ar safle 3.12cm sq (771 erw). Cynhyrchwyd 15,000 tunnell o TNT amrwd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac 20,000 tunnell o gordeit (a oedd y gyrru’r taflegrau). Byddai cyfran o’r cynnyrch yn mynd i ffatri lenwi gyfagos. Anfonid cordeit i Surrey ar wageni rheilffordd a oedd yn cael eu gwresogi gan stêm, er mwyn sicrhau tymheredd cyson.

Erbyn diwedd y rhyfel roedd gweithlu o 4,765 yn y ffatri TNT. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn cymudo ar y trên o Abertawe a threfi eraill. Merched oedd 59% ohonynt. Yn ôl dyddiaduron Gabrielle West, plismones ar y safle, roedd yr ether yn y cordeit yn achosi i hyd at 30 o ferched ar bob twrn ddioddef ffitiau epileptig, rhai ohonynt yn dioddef 12 ffit yn olynol. Mae’n disgrifio’r adran asid fel uffern, oherwydd bod y gronynnau asid yn yr awyr yn pydru dillad, yn amharu ar anadlu ac yn cosi’r croen. “Rydych chi’n ddall ac yn ddileferydd erbyn ichi lwyddo i ddianc,” meddai hi.

Adeiladodd y Ffatri Ordnans Frenhinol adnoddau newydd ar ran o’r safle yn 1938 a chyflogi gweithlu o 3,000 yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel roedd yn dal wrthi gan gynhyrchu amoniwm nitrad (un o gynhwysion deinameit) ar gyfer gwrteithio tir amaethyddol. Rhwng 1944 a 1963 bu’n datgymalu ffrwydron diffygiol.

Mae’r llun, trwy geredigrwydd Llywodraeth Cymru, yn dangos y safle yn 1946.

Diolch i Alice Pyper, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, ac i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Ceir rhagor o wybodaeth am ffatri ffrwydron Pen-bre ar wefan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed

Gwefan Parc Gwledig Pen-bre

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button