Safle Melin Wlân y Cambrian, Y Drenewydd

PWMP logobutton-theme-crimeSafle Melin Wlân y Cambrian, Y Drenewydd

newtown_cambrian_woollen_mill

Meddiannwyd tir i’r dwyrain o Afon Hafren yma gan Felin Wlân y Cambrian, sy’n cael ei choffau gan yr enwau ffyrdd Gerddi Cambrian a Chlos y Felin. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn ganolfan hyfforddi ar gyfer cyn-filwyr anabl (gweler isod).

Roedd y felin yn cynhyrchu brethyn caerog (tweed) erbyn dechrau'r 1870au, gan ddefnyddio peiriannau modern. Yn ei hanterth, dywedir mai hon oedd melin wlân fwyaf Cymru, gan gyflogi dros 300 o bobl. Dangosir y llun o'r felin yma trwy garedigrwydd Archifau Powys.

Efallai mai hon oedd y felin gyntaf yng Nghymru i gynhyrchu brethyn caerog (yn hytrach na gwlanen a siolau). Daethpwyd â gwehyddion a dylunwyr brethyn caerog o’r Alban i mewn, gan achosi rhywfaint o ddrwgdeimlad gan weithwyr lleol.

Ym 1875 cafwyd trafferthion ar ôl i'r cwmni gyflwyno gwyddiau newydd, ynghyd â gweithwyr o Loegr oedd yn gyfarwydd â'r peiriannau. Pan ddechreuodd rheolwyr hyfforddi prentisiaid o Gymry ar y gwyddiau, aeth y Saeson ar streic. Ar ddiwedd y shifft, cafodd y Saeson cyntaf i adael y ffatri eu pledio â cherrig. Cadwyd y gweddill i mewn i atal terfysg. Ailddechreuodd y gwaith y bore wedyn, ond dim ond oherwydd bod yr heddlu - gan gynnwys y prif gwnstabl - wrth law.

Roedd melinau tecstilau Canolbarth Cymru yn ei chael yn anodd yn wyneb cystadleuaeth gan gystadleuwyr mwy yn Sir Gaerhirfryn. Caeodd melin y Cambrian yn yr 1880au ond cafodd ei hailgychwyn gan yr Arglwydd Sudeley. Collodd arian cyn gwerthu'r felin ym 1905 i ddyn o’r enw Mr James, a osododd drydan a moderneiddio'r felin ond a grogodd ei hun yn 1906 ar ôl mynd i ddyled.

Un bore ym mis Mai 1910, achosodd tân ddifrod mawr i felin y Cambrian. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, cwympodd wal ar bobl  oedd wedi dod i weld yr adfeilion. Lladdwyd y dyn lleol, Pryce Wilson, ynghyd ag Ivor Roberts, pedair oed. Roedd gofalwraig Ivor, a oedd wedi mynd ag ef gyda hi, yn un o nifer a gafodd ei hanafu.

Un o reolwyr olaf y felin oedd John Rawson, a oedd yn hanu o Jedburgh, yr Alban. Lladdwyd ei fab, Robert, wrth wasanaethu gyda'r Highland Light Infantry ym 1916. Roedd yn cael ei gludo, wedi ei glwyfo, ar stretsier pan gafodd ef a’r rhai oedd yn ei gludo eu lladd gan siel.  Cyn hynny roedd Robert yn byw yn y Drenewydd gyda'i wraig, Elsie.

Roedd y felin wedi cau erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gafodd o leiaf ddau gyn-weithiwr eu lladd. Bu farw William Mills a William Price ill dau ym 1915 ac fe'u claddwyd yng Ngwlad Groeg.

Gadawodd y rhyfel 14,000 o gyn-filwyr wedi'u clwyfo yng Ngogledd Cymru (gan gynnwys Sir Drefaldwyn) oedd yn dysgu byw gydag anableddau. Yn 1919 cytunodd Cyd-bwyllgor Anabledd Gogledd Cymru i sefydlu canolfan hyfforddi ar safle melin y Cambrian. Sefydlwyd cynlluniau hyfforddi ar wahân ar gyfer gweddwon rhyfel a oedd angen sgiliau newydd i ennill bywoliaeth.

Cod post: SY16 2AW    Map

Gwefan Archifau Powys
I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua'r de gyda'r afon ar y chwith i chi, yna cadwch i'r dde ar hyd y ffordd. Trowch i'r chwith a dilynwch Stryd y Bont Fer at y gofeb rhyfel
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button