Parc Ynysangharad

Onibai am yr ardal hon o dir agored, byddai tref Pontypridd wedi lledaenu ar draws gwaelod y cwm, ar y naill ochr i’r afon Taf a’r llall. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, defnyddid y tir ar gyfer ffermio. Wedyn daeth rhan o’r tir yn rhan o ystad teulu Lenox, a oedd wedi sefydlu ffatri gadwyni Brown Lenox ar ochr ddwyreiniol y cwm ym 1818. Roedd gan y teulu blasty yma.

Aerial photo of Parc Ynysangharad in 1932
Parc Ynysangharad ym 1932, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, crewyd Parc Coffa Rhyfel gan ddefnyddio rhan heleath o’r ystad, gyda chymorth tanysgrifiadau cyhoeddus. Agorwyd y safle fel parc gan Field Marshal Viscount Allenby ym 1923. Daeth y plasty yn glinig iechyd, o dan reolaeth yr awdurdod lleol, ond fe’i dymchwelwyd gyda’r paratoadau ar gyfer adeiladu ffordd ddeuol yr A470.

Nodwedd o Barc Ynysangharad yw’r lido, sef adeiladau a godwyd yn 1927 o amgylch pwll nofio awyr agored. Ysbrydolwyd y pensaer gan ffurfiau baddonau Rhufeinig. Caeodd y lido ym 1991 ac fe aeth an adfail. Ailagorodd y lido yn 2015 ar ȏl prosiect adfer a gostiodd £6.3m.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y parc yn 1932 gyda chwrs golff 18-twll, y lido a Chamlas Morgannwg yn y gornel chwith isaf. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Yng nghanol y parc saif cofeb i’r tad a mab Evan a James James, a ysgrifennodd Mae Hen Wlad fy Nhadau. Hefyd gwelir gardd wedi’i suddo, ac ynddi dram glo – y math o wagen a ddefnyddid ym mhyllau glo’r Cymoedd. Mae’r ardd hon yn cydnabod yr arian a gododd glowyr ar gyfer creu’r parc.

Yn 2011, dadorchuddiwyd dwy wal anrhydedd yn y parc, gyda rhestri o enwau’r bobl a fu farw yn y rhyfeloedd byd.

Heddiw mae’r parc yng ngofal cyngor Rhondda Cynon Taf. Cynhelir digwyddiadau lu yma, yn cynnwys Penwythnos Fawr Ponty (gŵyl gerdd flynyddol) ac arddangosfa tân gwyllt pob mis Tachwedd.

Map

Parc Ynysangharad ar wefan Rhondda Cynon Taf

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button