Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

tour logo and link to information pageSenedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth 

Cynullodd Owain Glyndwr senedd yma ym 1404. Mae’r adeilad a welwn heddiw yn dyddio o c 1460 ond yn cynnwys, efallai, rai nodweddion o gyfnod cynharach. Mae trawstiau’r to yn un o’r nodweddion sydd wedi goroesi o’r canol oesoedd.

Prynwyd yr adeilad gan David Davies AS, ŵyr y diwydiannwr enwog o’r un enw, yn 1916 am ei fod yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol yr adeilad, a oedd erbyn hynny wedi newid cryn dipyn. Ailgododd yr adeilad a’i adfer o ran pryd a gwedd i’r hyn ydoedd yn y 15 ganrif. Fe’i cyflwynodd i’r cyhoedd ym 1912.  Un o’r grwpiau cyntaf i gwrdd yma oedd Cymreigyddion Cyfeiliog. Eu nod oedd astudio a gwerthfawrogi diwylliant Cymraeg.

Ystyriai David Davies mai cofeb i Glyndŵr oedd yr adeilad. Comisynwyd ganddo y murlun mawr a welir yno. Dywed rhai bod yr AS wedi mynnu cael ei wyneb ef ei hun wedi ei baentio ar y murlun i gynrychioli wyneb Glyndŵr!

Yma y cynhaliwyd dosbarthiadau ac arholiadau nyrsio’r Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a daeth llawer o fenywod y dref yn nyrsus yn Ysbyty’r Groes Goch yn y dref ym 1917. Hefyd roedd Cymdeithas Dynion ifanc yn cwrdd yn Institiwt Owain Glyndŵr, a chynhaliwyd dadl ym mis Ionawr 1915 ar y testun: a oedd angen gorfodaeth filwrol er lles yr Ymerodraeth Brydeinig. Daeth gorfodaeth filwrol (gwasanaeth milwrol gorfodol) i rym blwyddyn yn ddiweddarach.

Ar ôl y rhyfel, trafodwyd yr achos dros greu Cynghrair y Cenhedloedd, a chafwyd dadl a ddylid agor y proffesiynau i fenywod. Yn ôl rhai o’r siaradwyr roedd gwaith y menywod yn ystod y rhyfel wedi dangos y gall menywod lenwi swyddi a gadwyd tan hynny ar gyfer dynion yn unig. Dywedodd un arall, nad oedd menywod yn addas i’r proffesiynau oherwydd eu natur a’u cyfansoddiad.

Erbyn hyn canolfan i ymwelwyr yw’r adeilad Gradd I. Ceir arddangosfeydd a gweithgareddau yno yn seiliedig ar wrthryfel Glyndŵr ynghyd ag agweddau eraill ar fywyd yn y 15 ganrif. Gallwch ddarllen rhagor am Glyndŵr ac am y gwrthryfel ar ein tudalen am ei gerflun yng Nghorwen, ei gartref.

Glyndŵr oedd yn rheoli y rhan helaethaf o Gymru pan gynullodd y senedd ym Machynlleth ym 1404. Daeth llysgenhadon o‘r Alban, o Ffrainc ac o Castile (rhan o Sbaen bellach) yn ôl traddodiad, i wylio ei goroni’n Dywysog Cymru-teitl a roddwyd i fab cyntaf anedig brenin Lloegr er y 13 ganrif.

Daeth gwrthryfel Glyndŵr i ben ym 1409. 590 o flynyddoedd yn ddiweddarach cynullwyd senedd arall yng Nghymru. Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd hwnnw.

Daeth gwrthryfelwr arall, Harri Tudur, i Fachynlleth ym 1485. Roedd y Senedd-dy newydd, yn ôl pob tebyg, wedi ei adeiladu bryd hynny. Glaniodd Harri, o alltudiaeth yn Ffrainc, yn Sir Benfro ac roedd ei fyddin yn teithio drwy Gymru, ac wedi ennill cefnogaeth, cyn gorchfygu’r brenin Richard III ym mrwydr Bosworth. Y brenin newydd, Harri VII, a sefydlodd linach y Tuduriaid; cawsant ddylanwad dirfawr ar hanes Prydain.

Ar 14 Awst ysgrifennodd Harri lythyr ym Machynlleth yn gofyn am ragor o wŷr ar gyfer ei fyddin. Llythyr oedd hwn at Sir Roger Kynaston, tirfeddiannwr o bwys yn swydd Amwythig. Roedd Syr Roger hefyd yn gofalu am diroedd ei nai, John Grey, Arglwydd Powis a oedd i ffwrdd ar y pryd. Gyda Sir Roger o’i blaid roedd Harri yn gallu parhau â’i daith drwy Powys yn ddirwystr.

Diolch i'r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SY20 8EE    Map

Gwefan Canolfan Owain Glyndŵr – am oriau agor a gwybodaeth arall

I barhau ar y daith ar thema’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy Fachynlleth, cerddwch tua’r dwyrain ar hyd Heol Maengwyn a throwch i’r chwith wedyn i Ffordd Garth.  Ewch yn eich blaen a chroeswch y ffordd.  Mae’r codau QR nesaf wrth fynedfa’r ysbyty
Henry Tudor’s route to Bosworth  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label button_nav_8W-NSNavigation next button