Oriel Myrddin, Caerfyrddin

Oriel Myrddin, Lôn y Llan, Caerfyrddin

Photo of stained glass window

A chithau newydd sganio’r cod QR y tu allan i Oriel Myrddin, sylwch gymaint o wydr sydd ar du blaen yr adeilad. Codwyd yr adeilad yn 1892 yn gartref i Ysgol Gelf Caerfyrddin. Roedd y ffenestri mawr yn null Arts and Crafts yn effeithiol o ran sicrhau bod digonedd o olau yn cyrraedd y dosbarthiadau lluniadu, ysgythru a phaentio. Yn yr adeilad ei hun, gallwch weld ffenestr brin, wreiddiol, sydd wedi goroesi o wydr lliw mineral, hefyd yn null Arts and Crafts (yn y darlun ar y dde).

Roedd David Cox, yr arlunydd tirwedd, yn hyrwyddo nifer o ysgolion celf yng Nghymru trwy ei ymweliadau blynyddol â Betws-y-coed ac yn eu plith Ysgol Gelf Caerfyrddin a sefydlwyd yn 1854. Cytiau pren dros dro oedd cartref yr ysgol ar y cychwyn ond gwelwyd bod angen codi adeilad yn benodol ar gyfer yr ysgol.

Prynwyd darn o dir ac yn 1890 cychwynnwyd ar ymgyrchu i adeiladu’r ysgol trwy ddenu cyfraniadau gan y cyhoedd. Cynlluniwyd yr Ysgol Gelf gan bensaer lleol, George Morgan. A hithau o frics coch mae’n ymdebygu o ran ei gwedd i Ysgol Pentrepoeth a gynlluniwyd yn ogystal gan Morgan. Mae honno wedi’i dymchwel erbyn hyn.

Un o’r prifathrawon a roddodd wasanaeth hirfaith i Ysgol Gelf Caerfyrddin o 1945 tan 1967, oedd yr artist Stanley Cornwell Lewis MBE (1905- 2009).

Caewyd yr ysgol gelf yn 1977 a’i huno â chwaer ysgol yn Llanelli gan greu Coleg Celf Dyfed. Symudwyd i safle newydd yn Heol Ffynnon Job.

Wedi ymgyrch fer i achub yr adeilad yn y 1980au, agorodd Oriel Myrddin Gallery ar y safle yn Rhagfyr 1991. Mae’r oriel yn cynnal ystod o arddangosfeydd blaengar sy’n cynnwys celfyddyd gain, dylunio a chelf a chrefft ymarferol. Mae’n cynnal, yn ogystal, raglen brysur o addysg celf.

Diolch i Chris Ozzard

Cod post: SA31 1LH    Map

Gwefan Oriel Myrddin Gallery

Gwybodaeth bellach am Ysgol Gelf Caerfyrddin: Gwefan Amgueddfa Caerfyrddin