Pont Grog y Borth

Pont Grog y Borth

bangor_menai_suspension_bridgePan agorwyd y bont hon ym 1826, ei rhychwant o 176 metr oedd yr hiraf yn y byd. Fe'i cynlluniwyd gan Thomas Telford i goroni ei waith o greu ffordd newydd o Lundain i Gaergybi. Roedd cost uchel y cynllun ffordd yn cael ei gyfiawnhau gan bwysigrwydd y llongau rhwng Caergybi a Dulyn. Trawsffurfiodd y bont hefyd y berthynas lleol rhwng Ynys Môn a'r tir mawr, gan y medrai pobl bellach groesi'r Fenai boed glaw neu hindda. Yn flaenorol, roeddent yn dibynnu ar y cychod fferi, a chollwyd nifer o fywydau mewn damweiniau ar y cerrynt troellog.

Roedd ffurf y bont yn ymateb i ofynion y Morlys, a fynnai cael 30 metr o uchder clir er mwyn galluogi llongau hwylio i basio o dan y groesfan sefydlog. Manteisiodd Telford ar y tir uchel ar y ddwy lan yn y fan hon, a oedd hefyd yn cyd-fynd gydag un o fannau culaf y Fenai. Er hynny, roedd yn rhaid iddo godi pileri cerrig sylweddol a thraphontydd cyn cychwyn ar y gwaith o osod y cadmenai_suspension_bridgewyni haearn yn eu llefydd. Cafodd pob un o'r 16 cadwyn ei glymu at y tir yn un pen, yna tynnodd timau o tua 150 o ddynion ben arall pob cadwyn i fyny i ben y golofn ar y lan gyferbyn. Wedyn crewyd dec y bont, a oedd yn hongian o’r cadwyni.

Difrodwyd y bont gan wyntoedd uchel yn ystod ei degawdau cynnar, a dinistriwyd y dec ei hun ym 1839. Crewyd dec o ddur (yn hytrach na haearn) yn y 19eg ganrif, a gwnaethpwyd gwelliannau pellach ym 1908. Cafodd y bont ei uwchraddio o 1938 i 1940 i ymdopi â'r twf yn y traffig, o ran niferoedd a phwysau'r cerbydau. Ychwanegwyd y palmentydd, sy’n cario Llwybr Arfordir Cymru dros y Fenai, hefyd ar ôl i Telford gwblhau ei waith.

Ni wnaethpwyd cymaint o newidiadau i bont crog Telford yng Nghonwy, sydd erbyn hyn yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yno fe all ymwelwyr gael syniad o sut y byddai Bont Grog y Borth wedi ymaddangos yn wreiddiol.

Map

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button
Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button