Cymraeg Lady Bute's Bridge, Bute Park

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button


Bute Park logo

Pont Arglwyddes Bute, Parc ButeButton link to kids version of page

Yn yr ardal hon o Barc Bute gwelwn ddylanwad y merched ar ddatblygiad y parc! Gofynnodd yr Arglwyddes Maria North, gwraig gyntaf Ail Ardalydd Bute, i ffynnon gael ei chloddio ger y bont hon, "i sicrhau dŵr ffynnon". Gallwch weld y ffynnon yn glir o’r fan hon yn y parc.

Portrait of Lady Maria
Yr Arglwyddes Maria

Gallai'r Arglwyddes Maria (ar y dde) hefyd fod yn gyfrifol am y bont sy’n croesi camlas gyflenwi’r dociau. Yn ôl dogfennau, pan droswyd dyfrffos y felin ganoloesol i ffurfio’r rhan hon o’r gamlas yn 1936-1841, mynnodd rhywun – o bosibl yr Arglwyddes Maria - ar allu croesi’r cwrs dŵr yma. Cyfeiria manyleb adeiladu’r gamlas gyflenwi at y groesfan fel “Pont Arglwyddes Bute”.

Rhoddodd y bont hon fynediad i deulu’r Bute i’w gerddi i’r gorllewin o’r gamlas gyflenwi, gan ddefnyddio ffordd gerbydau a arweiniodd o Borth Gogledd y Castell i allanfa i Stryd y Castell. Mae'r hen lun isod (gyda diolch i Vena a Wynne Edwards) yn dangos y gymlas gyflenwi yn arwain tuag at y bont.

bute_park_feeder_and_lady_bute_bridgeCafodd llawer o’r bont wreiddiol ei guddio gan addasiadau i’r gamlas gyflenwi yn yr 20fed ganrif. Fe’i hailadeiladwyd yn rhannol yn y 1980au i sicrhau y byddai’n sefyll ar ôl i danciau milwrol ei chroesi - nid i gwrdd â’r gelyn, ond wrth gymryd rhan yn y gorymdeithiau a’r sioeau milwrol a gynhaliwyd yn y castell dros y degawd hwnnw.

Wrth i chi sefyll ar y bont, edrychwch i’r de tuag at ganol y ddinas. Gwelwch fod y gamlas gyflenwi’n troi i’r chwith. Aeth hen nant y felin yn syth ymlaen.

Ble mae'r HiPoint hwn?

I barhau â thaith Parc Bute, peidiwch a chroesi’r bont ond cerddwch tua’r de ar hyd y llwybr, gyda’r castell a’r dŵr ar eich chwith. Mae’r côd QR ar ffens sy’n arwain at bont tuag at y castell. Navigation next button