Cyn-Dŷ’r Tollau, Caerdydd

button-theme-canalCyn-Dŷ’r Tollau, Caerdydd

Codwyd yr adeilad hwn ym 1845 ar gyfer swyddogion y Tollau Tramor a Chartref, a oedd yn cadw llygad barcud ar y cychod a oedd yn tramwyo ar hyd Camlas Morgannwg. Roedd y brif fynedfa i'r adeilad yn y pen gorllewinol, yn wynebu Glanfa'r Dwyrain. Mae'r drws blaen addurnedig, gyda'r geiriau “Custom House” uwch ei ben, yn dal i fodoli.

cardiff_custom_houseTynnwyd y llun o’r ffryntiad - trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd - tua 1890. Mae'r gamlas a'r lanfa allan o’r golwg islaw'r llun. Arweiniai’r rheiliau ar y chwith at Bont Tŷ’r Tollau, y gallwch ei gweld ar y dudalen we hon.

Yn fuan ar ôl i Dŷ'r Tollau gael ei adeiladu, lluniodd Isambard Kingdom Brunel gynlluniau ar gyfer Rheilffordd De Cymru, i redeg o'r dwyrain tua'r gorllewin drwy Gaerdydd. Nid oedd digon o le ar gyfer gorsaf rhwng y gamlas ac afon Taf. Roedd y gamlas a'r glanfeydd yn rhy bwysig i'w hail-leoli, felly dargyfeiriodd Brunel yr afon yn lle hynny, fel y gallwch ddarllen ar ein tudalen am orsaf Caerdydd Canolog.

Heddiw, gallai hyn ymddangos yn lleoliad rhyfedd ar gyfer archwiliadau Tollau Tramor, ond o'r 1790au, roedd yn hwb trafnidiaeth. Cyrhaeddai cychod cul o Ferthyr Tudful a phwyntiau eraill ar hyd y gamlas, ac roedd llongau môr yn dod yma o'r loc môr ym Mharc Hamadryad heddiw, a chertiau yn cludo nwyddau i'w dosbarthu o amgylch Caerdydd.

Roedd y rhan fwyaf o'r glanfeydd i'r de o'r bont reilffordd, a oedd yn hygyrch i'r llongau mwy a ddefnyddiai ben deheuol y gamlas (roedd yn ehangach ac yn ddyfnach na'r gweddill). Cafodd Tŷ'r Tollau ei ymestyn tua'r dwyrain yn yr 1860au, ond roedd y glanfeydd eisoes yng nghysgod masnachol dociau Caerdydd, a oedd wedi datblygu'n gyflym ers i'r doc cyntaf agor ym 1839.

Agorodd Tŷ’r Tollau newydd ger Pen y Lanfa ym 1898. Mae bellach yn rhan o dafarn ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd. Nid oedd angen yr hen Dŷ’r Tollau bellach, ac ym 1899 fe'i gwerthwyd am £7,800 i'r cyfreithiwr lleol Edgar David.

Cod post : CF10 1AP    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button