Cyn Bencadlys y Fyddin, Y Drenewydd

PWMP logoCyn Bencadlys y Fyddin, Y Drenewydd

Codwyd yr adeilad hwn tua 1840, o bosibl fel warws gwlân. Daeth yn bencadlys 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a gollodd lawer o ddynion yn Nhwrci yn 1915.

Ar ddechrau'r 20fed ganrif, roedd llythrennau mawr a gafodd eu paentio ar wal yr adeilad sy'n wynebu'r dwyrain yn nodi’r adeilad fel Pencadlys 5ed Bataliwn Gwirfoddolwyr Cyffinwyr De Cymru. Fe'i sefydlwyd ym mis Mawrth 1897. Y prif swyddog oedd yr Uwchgapten Edward Pryce-Jones, AS Bwrdeistrefi Trefaldwyn. Roedd cwmnïau yn y Drenewydd, Y Trallwng, Trefaldwyn a Machynlleth.

O 1898 adwaenid y Pencadlys yn y Drenewydd fel The Armoury. Roedd yn cynnwys ardal storio arfau a maes tanio reifflau.

Daeth y bataliwn yn 7fed Bataliwn (Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd) y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym 1908, ar ôl i ddeddfwriaeth newydd ffurfioli strwythur lluoedd Tiriogaethol ac Wrth Gefn Prydain. Cyrhaeddodd llawer o recriwtiaid newydd ar ôl i'r rhyfel ddechrau ym 1914.

Yn ystod haf 1915, bu farw llawer o filwyr y bataliwn, fe aethant yn sâl neu fe'u hanafwyd ym mhenrhyn Gallipoli, lle'r oedd y Cynghreiriaid yn ceisio ymosod ac yn y pen draw drechu Twrci. Roedd y Cynghreiriaid wedi gwneud camgymeriadau yn ystod  eu hymosodiad cychwynnol ym mis Chwefror a chollwyd yr elfen o syndod, ond ni orchmynnwyd iddynt encilio tan fis Tachwedd 1915.

Dechreuodd colli dynion o ffermydd i'r ymdrech ryfel fygwth cyflenwad bwyd Prydain erbyn 1916, felly caniatawyd i ffermwyr gael benthyg milwyr ar gyfer tasgau tymhorol. Gwahoddwyd ffermwyr Sir Drefaldwyn i wneud cais i'r Armoury os oeddent eisiau milwr penodol, fel mab a oedd wedi ymrestru.

Yn ddiweddarach roedd yr Armoury yn ganolfan leol ar gyfer y Fyddin Diriogaethol, cyn cael amrywiol ddefnyddiau masnachol. Yn 2016 cafodd ei droi'n fflatiau preswyl ar gyfer Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru.

Cod post: SY16 2NH    Map

Gwefan Tai Canolbarth Cymru

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch i'r maes parcio a chadwch i'r dde. Dilynwch lan yr afon at y bont droed. Croeswch yr afon a'r parcdir i Blas Dolerw
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button