Cymraeg Footnotes The People's Door, Bute Park

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Bute Park logo

Drws y Bobl

Mae’r drws derw sy’n arwain at iard Canolfan Addysg y parc a Chaffi’r Ardd Gudd yn gampwaith celf. Neu, i fod yn fanwl, nifer o ddarnau o gelf. Ar ddechrau 2011, gwahoddwyd cerfwyr pren amatur a phroffesiynol i gyflwyno eu dyluniadau i baneli’r drws, a fyddai’n adlewyrchu treftadaeth gyfoethog y parc.

Dyluniwyd prif strwythur y drws, gan gynnwys y bachau haearn trymion, gan y pensaer o Gaerdydd, Michael Davies. Neilltuwyd naw panel sgwâr i enillwyr y gystadleuaeth gerfio. Ym mis Chwefror 2011, casglodd pawb ar y rhestr fer ddarn o dderw 23cm x 28cm a rhoddwyd mis iddynt gwblhau eu darn.

Yna dangoswyd y darnau mewn arddangosfa dros dro wrth i aelodau’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefrynnau. Yna cafodd y darnau buddugol eu hymgorffori i’r drws gan of a saer lleol. Gadewir i’r drws dreulio’n naturiol, ac mae bellach marciau adwaith cemegol rhwng tanin y derw a haearn y bachau. Mae’n cyflwyno nifer o dirnodau a straeon coll.

Fe’i gosodwyd yn ofalus ym mis Awst 2011, gan fod yn rhan bwysig o seremoni agor y ganolfan hamdden ym mis Hydref 2011.

Wyddoch chi beth yw’r stori neu’r nodwedd hanesyddol ym mhob panel? Os ydych yn rhan o’r ffordd drwy daith HistoryPoints Parc Bute, dylai fod gennych glem am rywrai ohonynt erbyn hyn!

Gweler y troednodiadau i ddarllen enwau’r cerfwyr a’r stori sy’n sail i ddelweddau’r panel.

Ble mae'r HiPoint hwn?

Troednodiadau: Yr hyn mae’r paneli’n ei ddarlunio

Rhes uchaf, chwith i dde:

Meudwy, gan Will Power (un o hoelion wyth tîm cynnal a chadw parciau’r ddinas). Roedd meudwyfa yn nwyrain hen Bont Caerdydd ar ddiwedd y 15fed ganrif. Arferai’r meudwy fyw oddi ar roddion pobl.

Pont Swiss, gan Arthur Welsby. Codwyd y bont bren, a ysbrydolwyd gan y bont yn Lucerne, y Swistir, ger Castell Caerdydd ym 1875-1878. Fe’i dyluniwyd gan William Burges, ac fe’i defnyddiwyd gan deulu Bute wrth gerdded o’u cartref i’r gerddi.

Andrew Pettigrew, gan Sharon Littley. Pettigrew oedd prif arddwr y castell rhwng 1873 a 1901. Ei waith tirlunio luniodd y parc cyfoes, ac roedd ganddo’r dasg o dyfu gwinwydd ar fur deheuol y castell.

Rhes ganol:

Dyfrffos y felin, gan Barry Onslow. Safai dwy felin ŷd i’r gorllewin o’r castell yn y 12fed ganrif. Ychwanegwyd melin ban erbyn 1314. Defnyddiai dyfrffos y felin ddŵr o Afon Taf i bweru’r melinau. Yn ddiweddarach daeth yn gamlas gyflenwi'r dociau, sef y sianel ar hyd dwyrain y parc.

Diwydiannau bwthyn, gan Edmundo Ferreira-Rocha (Ceidwad Trefol y Parc). Roedd gwaith haearn, gwaith copr a thanerdy (lle i drin croen anifeiliaid i greu lledr) ymhlith y diwydiannau yn ardal y parc yn y 18fed ganrif. Yn y 19eg ganrif, cynhyrchwyd rhaffau mewn cae hir, cul a elwid y rope walk.

Brawd Du, gan Michael Davies (pensaer a gyflogwyd gan Broject Adfer Parc Bute i adfer Wal yr Anifeiliaid, Porth y Gorllewin a chodi’r Ganolfan Addysg newydd). Sefydlwyd Brodordy’r Brodyr Duon ym 1256 gan Richard de Clare, mab Brenin Harri’r I. Gelwid mynachod Dominicaidd yn “frodyr duon” am eu bod yn gwisgo cyflau du, a welir ar y cerflun metel hwn.

Rhes waelod:

Stôl drochi, gan Betsan Dunn. Codwyd stôl drochi i’r gogledd o Bont Caerdydd ym 1739. Roedd arni fraich bren hir gyda chadair wedi’i hatodi iddi. Byddai merched “haerllug” yn cael eu maglu i’r gadair a’u trochi i’r afon sawl gwaith. Ni châi’r dynion y driniaeth hon, waeth pa mor haerllug oedden nhw!

Cwryglau, gan Robert Innes. Cychod pysgota bach yw cwryglau a wneir gyda chroen wedi’i ymestyn dros fframiau helyg plyg. Defnyddiai un teulu a drigai yn ffermdy Blackweir yn y 1830au gwryglau i bysgota yn yr afon. Allwch chi ddod o hyd i sedd wedi’i cherflunio sydd wedi’i hysbrydoli gan gwrwgl wrth yr afon heddiw?

Ceiniogau Rhufeinig, gan Barry Onslow. Canfuwyd ceiniogau Rhufeinig ym Mharc Bute. Cafodd dwy eu cloddio i’r gogledd o’r castell ym 1985 o tua 87OC.

 

I barhau â thaith Parc Bute, trowch i’r chwith wrth i chi adael iard Caffi’r Ardd Gudd a cherddwch i ffwrdd o’r afon, wrth fur yr ardd. Trowch i’r dde ar ddiwedd y llwybr a throwch nôl tuag at y castell nes i chi ddod at y côd QR ar bont ar y chwith Navigation next button