Adfeilion Castell Caeriw

tour logo and link to information page

Adfeilion Castell Caeriw

Codwyd y castell gwreiddiol ar y safle hwn yn gartref i deulu Gerald de Windsor a’i wraig ifanc, ddeniadol - y Dywysoges Nest. Roedd hi eisoes yn magu plentyn gan y brenin Harri I. Cafodd nifer o blant gyda Gerald, cwnstabl castell Penfro.

Yn ôl traddodiad cafodd Nest ei chipio yn 1109 gan Owain ap Cadwgan, mab i dywysog o Gymro. Bu’r ddau gyda’i gilydd am ychydig flynyddoedd a chenhedlu, yn ôl y sôn, ddau o blant cyn i Nest ddychwelyd at Gerald.

Codwyd y castell, o bridd a choed mae’n debyg, ar safle caer o’r Oes Haearn. Syr Nicholas de Carew, un o ddisgynyddion Gerald a Nest, fu’n gyfrifol am y  gwelliannau i’r castell ddiwedd y 13ganrif gan ddefnyddio cerrig, a chreu’r wardiau mewnol ac allanol a welwn ni heddiw. 

Yn 1480 daeth y castell yn eiddo i Syr Rhys ap Thomas. Llywodraethai ef dros rannau helaeth o Gymru ar ran y brenin amhoblogaidd Richard III. Yn debyg i nifer o uchelwyr eraill, newidiodd Syr Rhys ei ochr pan gychwynnodd Harri Tudur ar ei ymgyrch i gipio’r orsedd. Roedd arweiniad a dawn filwrol Syr Rhys yn allweddol i fuddugoliaeth Harri ym mrwydr Bosworth yn 1485 a chasglodd lawer o filwyr o Gymru yn ystod ei daith i’r frwydr honno.

Aerial photo of Carew Castle in 1947
Llun o'r castell yn 1947, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Ac yntau wedi ei wobrwyo’n hael gan y brenin newydd, Harri VII, trefnodd Syr Rhys adnoddau moethus ar gyfer castell Caeriw, gan gynnwys Neuadd Fechan newydd. Cludwyd cerrig o Gaerfaddon er mwyn ei addurno. Yn 1507 cynhaliodd Dwrnament Mawr dros bum niwrnod lle roedd marchogion yn ymwan ac yn cystadlu ar gampau eraill.

Trefnwyd y wedd ogleddol drawiadol â’i ffenestri Elisabethaidd gan Syr John Perrot y tu allan i lenfur y castell. Ganwyd Syr John, plentyn siawns i Harri’r VIII yn ôl y sôn, yn Haroldson, (i’r gorllewin o Hwlffordd) ac ef oedd piau Carew o 1558. Cafodd ei garcharu yn Nhŵr Llundain, ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth a’i ddefrydu i farwolaeth yn 1592, ond bu farw o salwch y flwyddyn honno.

Difrodwyd rhannau o’r castell yn ystod y Rhyfel Cartref er mwyn sicrhau na ellid ei ddefnyddio at ddibenion milwrol fyth eto. Er 1983 mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn lesio a rheoli’r castell. Yn 2013 cafodd y Neuadd Fechan ei ail-doi.

Mae’r llun o’r awyr, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y castell yn 1947. Daw o Gasgliad Aerofilms Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Mae rhywogaethau prin o flora a fauna i’w gweld yn y castell ac ar y tir o amgylch. Sylwch ar yr ystlumod wrth iddi nosi, ac yn eu plith ystlumod trwyn pedol prin.

Mae Melin Lanw hanesyddol Caeriw ar ben pellaf Llyn y Felin.

Diolch i’r Athro Dai Thorne am y cyfieithiad

Cod post: SA70 8SL    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk