Porth De Castell Caerdydd, Parc Bute

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button


Bute Park logo

Porth De Castell Caerdydd, Parc Bute

Old photo of south of Cardiff Castle
Porth y De ar y chwith tua 1880

Dyma fynedfa ddeheuol Castell Caerdydd, sydd â’i gwreiddiau yn nyddiau’r Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf Oed Crist.

Sylweddolon nhw fod gan y safle bosibiliadau strategol a'i ddefnyddio fel caer a man masnachu. Mae castell heddiw wedi’i ffinio gan waliau Rhufeinig wedi’u hailgodi, gan gynnwys rhan fawr o’r gwaith carreg gwreiddiol.

Gadawodd y Rhufeiniaid yn y bedwaredd ganrif a ni wyddom lawer am y safle nes i’r Normaniaid gyrraedd ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Cododd Robert Fitzhamon fwnt tua 1090. Carcharwyd Robert Normandi, Brenin Harri’r I, yn y castell o 1126 nes ei farwolaeth ym 1134. Ychwanegwyd gorthwr carreg trawiadol tua 1135.

Ymwelodd Gerallt Gymro ac Archesgob Caergaint â Chastell Caerdydd ar 14 Mawrth 1188 yn ystod taith trwy Gymru yn ricriwtio ar gyfer y drydedd groesgad. Mae dyddiadur  Gerallt yn dweud wrthym sut y dringodd Ifor Bach dros furiau uchel y castell (yn 1158) er mwyn cipio Iarll Caerloyw. Nododd hefyd fod y Brenin Harri’r II wedi mynychu offeren yng Nghaerdydd mewn capel wedi’i gysegru i Sant Piran (yn 1172). Cafodd y brenin ei rybuddio yn Saesneg gan ddyn tonsuredig mewn abid gwyn i wahardd masnachu neu weithio ar y Sul. Onid e, byddai’n dioddef anffawd. Anwybyddodd y brenin y cyngor ac yn fuan wedyn cododd ei feibion ef ei  hun yn ei erbyn yn Ffrainc. Ystyriai Gerallt mai cosb ar y brenin oedd hynny.

Arferai nifer o deuluoedd pendefig fod yn berchen ar y castell. Fe’i trosglwyddwyd drwy briodas o deulu De Clares i deulu Despenser ym 1399, ac yn ddiweddarach i deulu Beauchamps. Roedd eu hadeilad newydd yng nghanol y tŷ presennol. Aeth priodas arall â’r castell i ddwylo teulu Neville, ac yn y pen draw drwy Anne Neville, gwraig Rhisiart III, i feddiant y Goron.

Dyfarnwyd Castell Caerdydd i deulu Herbert, Ieirll Penfro, gan y Goron ym 1550. Gwnaeth y teulu pendefig olaf i fod yn berchen arno, teulu Bute, hefyd ei feddiannu drwy briodas, ym 1776. Manteisiodd teulu Bute ar gronfeydd mwynau ystadau Morgannwg.

Old photo of south of Cardiff Castle
Hen lun o borth y de tua 1900

Erbyn y 1860au, gallai Trydydd Ardalydd Bute (1847-1900), gŵr cyfoethog ac ysgolheigaidd, weddnewid y Castell i arddull ganoloesol fawreddog. Dechreuwyd y project 60 mlynedd ym 1866. Creodd ei bensaer, William Burges, un o’r adeiladau mwyaf rhyfeddol ym Mhrydain Oes Fictoria, gyda’r muriau mewnol disglair yn llawn metel euro, cerfluniau, murluniau a gwydr lliw.

Mae’r lluniau’n dangos Porth y De a’r adeiladau wedi’u clystyru o’i gwmpas tua 1880 (llun uchaf) a gyda thraciau tram a bws ceffylau tua 1900, ar ôl dymchwel yr adeiladau.

Rhoddodd teulu Bute y castell a’r tir i Ddinas Caerdydd ym 1947. Ar ôl cyfnod fel Coleg Cerdd a Drama Caerdydd, mae’r castell bellach yn un o brif atyniadau ymwelwyr Cymru. 

Côd Post: CF10 3RB    Map

Gwefan Castell Caerdydd

I barhau â thaith Parc Bute, cerddwch i’r gorllewin ar hyd Stryd y Castell tuag at dŵr cloc y castell, lle mae côd QR a bwrdd dehongli am Y Mur Anifeiliaid (dyma HiPoint1 y daith) Navigation next button
button_tour_gerald-W Navigation previous buttonNavigation next button