Cymraeg Cardiff Castle North Gate

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button


Bute Park logo

Porth Gogledd Castell Caerdydd

Mae’r fynedfa hon i Gastell Caerdydd yn enghraifft ryfeddol o borth Rhufeinig wedi’i ailadeiladu.

Y Rhufeiniaid sefydlodd y castell gyntaf, gan godi caer a man masnachu yma yn y ganrif gyntaf Oed Crist. Dewiswyd lleoliad y gaer am ei agosrwydd at yr afon a’r môr. Y cyfan sy’n weddill o’r gaer Rufeinig yw’r porth a’r muriau, a adeiladwyd â charreg yn y bedwaredd ganrif Oed Crist.

Arferai’r ffordd Rufeinig a aeth drwy’r porth hwn gysylltu’r gaer yng Nghaerdydd â chaerau eraill yn Ne Cymru. Yn wreiddiol, roedd gwarchoty hefyd ar y naill ochr i’r porth, ac mae rhannau helaeth o’r gwaith carreg Rhufeinig i’w gweld hyd heddiw. Gadawyd y gaer Rufeinig yn y bumed ganrif, a chredir i’r safle ddirywio’n raddol.

Photo of North Gate with high towers
Porth y Gogledd cyn lleihau arni.

Ar ddiwedd y 11eg ganrif, ailsetlodd y Normaniaid yma gan atgyfnerthu’r safle. Diflannodd gweddillion y waliau Rhufeinig o dan amddiffynfeydd daear newydd. Ac eithrio siâp sgwaraidd y safle, prin fod gwreiddiau Rhufeinig y castell i’w gweld.

Wyth can mlynedd yn ddiweddarach, daethpwyd o hyd i lain o waith carreg Rhufeinig gwreiddiol ar ochr ddwyreiniol y castell wrth baratoi i godi adeiladau newydd. Gorchmynnodd perchennog y castell, Trydydd Ardalydd Bute, waith cloddio ehangach ac ym 1900 daethpwyd o hyd i weddillion trawiadol Porth y Gogledd.

Penderfynodd yr Ardalydd adfer y waliau a’r gât Rufeinig yn gyfan gwbl lle y bo’n bosibl, ac ailadeiladodd ei bensaer, William Frame, Borth y Gogledd tua 1905. Beirniadwyd gât Frame fel un a oedd yn hanesyddol anghywir ac yn rhy uchel, a phenderfynodd y Pedwerydd Ardalydd ei ddadwneud yn rhannol, a’i ailadeiladu ar ei ffurf bresennol ym 1922.

Dengys y llun y gât fel y’i dyluniwyd gan Frame. Cymharwch hon â’r gât bresennol. Ydych chi’n cytuno â William Frame neu’r Pedwerydd Ardalydd?

Ble mae'r HiPoint hwn?

I barhau â thaith Bute, cerddwch ar hyd y llwybr, parhewch ar hyd y llwybr at y fynedfa ger Heol y Gogledd Navigation next button