Llwybr pysgod Bae Caerdydd

Llwybr pysgod Bae Caerdydd

Pan godwyd morglawdd Bae Caerdydd yn y 1990au, roedd llwybr pysgod yn rhan o’r strwythur oherwydd roedd afon Taf wedi cael ei ail-stocio â physgod mudol ers y 1980au. Am ddegawdau roedd yr afon wedi’i llygru gan wastraff diwydiannau trwm. Roedd tynnu dŵr ar gyfer defnydd diwydiannol a gor-bysgota hefyd wedi gwneud yr afon yn anaddas ar gyfer eog a brithyll y môr. Dechreuodd y dŵr i lifo’n lan gyda dirywiad diwydiant trwm ac ymyrraeth i wella ansawdd dŵr.

Codwyd y morglawdd ar draws aberoedd y Taf ac Elái, gan dorri’r llwybr a ddefnyddiai eogiaid aeddfed i ddychwelyd at eu meithrinfeydd i fyny'r afon. Felly adeiladwyd llwybr pysgod ar ffurf cyfres o byllau. Mae dŵr ffres o'r lagŵn y tu ôl i'r morglawdd yn llifo o un pwll i'r nesaf, gan ddarparu llwybr i’r eogiaid i ddychwelyd adref i silio. Gall eog neidio’n uchel tra’n nofio i fyny afon naturiol. Mae gwynddonwyr wedi gosod tagiau ar rhai o eog y Taf er mwyn cofnodi faint o’r pysgod ifanc sy’n dychwelyd.

Map

Gwefan Adwurdod Harbwr Caerdydd

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button