Safle Camlas Morgannwg, cornel Lôn y Felin

button-theme-canalSafle Camlas Morgannwg, cornel Lôn y Felin, Caerdydd

Petaech yn sefyll ar gornel Heol Eglwys Fair a Lôn y Felin ar unrhyw adeg rhwng 1794 a’r 1950au cynnar, byddai eich golygfa tua’r dwyrain wedi cynnwys Camlas Morgannwg. Gweler y llun isod – trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd – i ddeall pa mor wanahol yr oedd yr ardal yn edrych.

cardiff_canal_mill_lane_corner

Mae Lôn y Felin ar y chwith yn y llun, a dynnwyd oddeutu 1910. Y tu hwnt i'r gamlas roedd ffordd gyfochrog o'r enw Stryd Newydd, nad yw'n bodoli mwyach. I'r dde o'r ffotograffydd, roedd y gamlas yn troi tua’r de, i ddechrau o dan bont Tŷ’r Tollau, ac yna o dan y rheilffordd.

O'r 1890au ymlaen, roedd yn anarferol cael golygfa mor glir o Stryd Newydd o'r fan hon, gan fod hysbysfyrddau posteri ar ochr bellaf y gamlas. Roeddent yn arddangos hysbysebion, ac yn wynebu Lôn y Felin a’r Stryd Newydd. Roedd llawer yn eu hystyried yn “erchyll” ond roeddent yn dal yn eu lle yn yr 1940au, fel y gwelwch ar ein tudalen am y gamlas ymhellach tua'r dwyrain ar hyd Lôn y Felin.

Mae'r polion tal yn y llun hwn yn dal yr hysbysfyrddau yn eu lle, ac mae’n edrych fel petai’r dynion ar y llwybr tynnu yn gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt. Tynnwyd y cychod camlas gan geffylau, a oedd yn cerdded ar hyd y llwybr tynnu.

Tua'r adeg y tynnwyd y llun, roedd yr ardal hon yn brysur gyda thramiau. Un noson ym 1908, roedd James Morgan yn gweithio fel dyn signal tram yng nghornel Lôn y Felin pan sylwodd fod merch 17 oed o Bontypridd wedi taflu ei hun i mewn i'r gamlas. Tynnodd ei gôt a neidio i mewn. Yn fuan, sylweddolodd James, 19 oed, ei fod yn anodd nofio tra’i fod yn gwisgo ei lifrai a chlocsiau! Achubodd y ferch, ac yn ddiweddarach cyflwynwyd bron i £2 iddo (a fyddai dros £225 yn ein harian ni heddiw) gan bwyllgor tramffyrdd Caerdydd. Cyflwynodd y Royal Humane Society dysteb iddo.

Cod post: CF10 1FE Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button