Caffi Beca, Efailwen

button-theme-crimeCaffi Beca, Efailwen

Mae'r caffi hwn wrth ymyl yr A478 wedi'i enwi ar ôl Terfysgoedd Beca, a ddechreuodd yma yn 1839 pan dinistriwyd tollborth newydd dair gwaith gan “ferched Beca”. Ysgubodd y mudiad protest ledled De-orllewin Cymru, gan barhau tan 1843. Ymosodwyd ar dollbyrth fel symbolau corfforol o nifer o wahanol gwynion a oedd gan y werin yn yr ardaloedd gwledig.

Roedd tollborth Efailwen yn un o lawer rhwng Arberth ac Aberteifi lle bu'n rhaid i ffermwyr ac eraill dalu toll er mwyn defnyddio pob rhan o'r ffordd. Un o nodau codi giât newydd Efailwen ym 1839 oedd codi arian gan weithwyr calch. (Llosgwyd calchfaen i gynhyrchu calch ar gyfer morter, gwrtaith amaethyddol a defnyddiau eraill.)

Ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf 1839, dinistriwyd giât Efailwen yn ystod y nos gan dorf o ddynion wedi’u cuddio â dillad menywod a wynebau duon. Eu harweinydd oedd Tomos Rees ("Twm Carnabwth"), a oedd yn byw mewn bwthyn o'r enw Carnabwth ac yn gweithio fel llafurwr fferm. Roedd hefyd yn baffiwr mewn ffeiriau. Ni gymerodd unrhyw ran yng ngweddill Terfysgoedd Rebecca.

Pam y cysylltiwyd yr enw “Rebecca” ȃ’r protestiadau? Un theori yw bod yr arweinwyr wedi cymryd enwau'r menywod a fenthycodd eu dillad iddynt. Dywedwyd mai dim ond merch fawr o'r enw Rebecca oedd â dillad addas i Twm Carnabwth. Mae theori arall yn cysylltu'r protestiadau gyda dyfyniad o’r Testament Newydd am Rebecca a giatiau.

Mae celloedd y ddalfa yng Nghaerfyrddin lle y cadwyd rhai o’r terfysgwyr yn dal i fodoli, ac maent yn agored i ymwelwyr.

Mae dyluniad Caffi Beca yn adleisio siâp tai toll-geidwaid, a oedd fel arfer yn cynnwys adran yn sticio allan o flaen y gweddfill gyda waliau cornel ar ffurf siamffr i alluogi'r ceidwad i arsylwi ar y ffordd o'r tu mewn.

Cod post: SA66 7UY    Map

Gwefan Caffi Beca – mwy o hanes lleol