Gorsaf bad achub Porth Tywyn

Gorsaf bad achub Porth Tywyn

burry_port_old_lifeboat_stationAgorwyd gorsaf bad achub y RNLI ym Mhorth Tywyn ym 1887 a darparwyd bad achub 12-rhwyf a oedd yn 11 metr o hyd. Ariannodd etifeddiaeth Mrs JS Barclay, o Edmonton, cost sefydlu'r orsaf. Enwyd bad achub cyntaf yr orsaf David Barclay of Tottenham ar ôl ei diweddar ŵr. Ar yr adeg, roedd y doc yn brysur gyda llongau a fyddai’n cludo ymaith glo o lofeydd Cwm Gwendraeth.

Enw bad achub cyntaf yr ardal (wedi’i leoli ym Mhen-bre) oedd City of Bath – rhodd gan ddinysaddion Caerfaddon yn 1863. Rhoddwyd yr ail fad achub gan Stanton Meyrick o Bimlico, Llundain. 

Ym 1914, caewyd yr orsaf gan fod gorsafoedd cyfagos yn darparu gwasanaeth digonol. Mae’r llun uchaf yn dangos adeilad yr orsaf yn y degawdau wedi’r Ail Ryfel Byd (gyda diolch i’r RNLI). Roedd y trac lansio yn y blaendir yn arwain i lawr tuag at pen pellaf y pier ar yr ochr yma o’r harbwr allanol. Yng nghornel dde uchaf y llun, fe welwch Gwaith Copr Pen-bre. Roedd yna we o reilffyrdd yn yr ardal, yn cynnwys y trac a welwch ar dde’r llun a oedd yn pasio gorsaf y bad achub i gyrraedd pen y pier.

burry_port_inshore)lifeboat_kip_and_kathAilagorwyd yr orsaf ym 1973, gyda bad achub y glannau dosbarth D. Uwchraddiwyd cwt y bad achub ym 1994, gyda chyfleusterau gwell ar gyfer y criw a chwch newydd, y Kip and Kath, sydd i’w weld yn y llun c.1995 (gyda diolch i’r RNLI). Yn 2002, ystyriodd y RNLI a fyddai bad achub hofranlong yn ddefnyddiol ym Mhorth Tywyn yn y dyfodol. Rhoddwyd bad dosbarth-B gan y rhaglen deledu Blue Peter (BBC) yn 2010.

Agorwyd gorsaf newydd, nepell o’r hen orsaf, fis Medi 2019. Os hoffech chi drefnu ymweliad, cysylltwch ag Alun Wells ar 07717 881650.

Darperir gwasanaeth bad achub y DU nid gan y llywodraeth ond gan elusen yr RNLI. Ers ei sefydli ym 1824, amcangyfrifir i’r RNLI achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai aelodau criw on mae’r mwyafrif, rhyw 40,000, yn wirfoddolwyr sy’n gadael eu gwaith, teuluoedd neu gwelyau i ateb galwadau brys.

Côd Post: SA16 0ER    Map

Y RNLI ar wefan HistoryPoints.org

Gwefan y RNLI

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button