Caban Sgowtiaid Penrhiwfarteg, Ystradgynlais

PWMP logobutton-theme-crimeCaban Sgowtiaid Penrhiwfarteg, Rhiw Farteg, Ystradgynlais

Mae’r safle hwn wedi cael defnydd parhaus hirach fel canolfan i Sgowtiaid nag unrhyw le arall yn y DU. Sefydlwyd y Fintai gyntaf o Sgowtiaid Sir Frycheiniog yma yn 1908 ac mae wedi cael ei leoli yma byth ers hynny, heb unrhyw darfu ar hyn yn ystod amser rhyfel. 

Yn 1913, aeth Mintai Ystradgynlais ar ymweliad â Gwlad Belg. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth i ffurfio Mintai yn Ostend ac roedd eu Sgowtiaid hwy i ymweld â Chwm Tawe ar ddiwedd mis Gorffennaf a dechrau mis Awst 1914. Roedd rhyfel ar fin torri a chafodd yr ymweliad ei ganslo. Daeth Sgowtiaid Gwlad Belg yn gludwyr negeseuon ar gyfer eu byddin genedlaethol, gyda gorchmynion i lyncu eu negeseuon petaent yn cael eu dal.

Yn gynnar yn ystod y rhyfel, bu tri o’r bechgyn - Marcel Germonpre a’r brodyr Andre a Jean Kies - yn helpu awdurdodau Gwlad Belg i ddal 10 o ysbiwyr Almaenig yn Ostend. Cafodd pump o’r ysbiwyr eu dienyddio’n gyflym. Cafodd y bechgyn eu hanfon yn fuan i Loegr, gan fod yr Almaenwyr wedi dechrau saethu Sgowtiaid. Ym mis Tachwedd 1914, roeddynt wedi cyrraedd Ystalyfera, lle cawsant eu cartrefu a mynychu’r ysgol. 

Yn ddiweddarach, daeth Marcel ac Andre yn Filwyr Cyffredin ym Myddin Gwlad Belg. Cafodd Marcel ei ddal a dod yn garcharor rhyfel. Ym mis Awst 1918, gwnaeth Andre ymgais beryglus i geisio dal saethwr Almaenig. Saethwyd ef yn ei goes a bu farw’n 19 mlwydd oed trwy golli gwaed yn fuan wedi iddo gyrraedd yr ysbyty. Cyflwynwyd medal Croi de Guerre Gwlad Belg iddo wedi ei farwolaeth.

Bu farw deg o gyn Sgowtiaid Cwm Tawe yn y rhyfel. Mae Andre a hwythau wedi’u henwi ar y gofeb Sgowtiaid yn Eglwys Dewi Sant, Ystalafera.

Gyda diolch i Philip Morgan

Cod post: SA9    Map

I barhau gyda thaith Ystradgynlais yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ewch i lawr Rhiw Farteg a throwch i’r dde ar hyd y llwybr seiclo, neu fynd i lawr y rhiw a throi i’r chwith ar Heol Castell-nedd. Dilynwch y naill ffordd ar hyd y llwybr seiclo hyd at ben Station Road
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button