Safle Camlas Morgannwg, Butetown

button-theme-canalSafle Camlas Morgannwg, Butetown, Caerdydd

Tynnwyd yr olygfa o'r awyr a welir isod - trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd - ym 1927 ac mae'n dangos sut yr oedd Camlas Morgannwg yn gwahanu Sgwâr Loudon (ar y dde ar waelod y llun) a Dumballs Road (ar y chwith ar waelod y llun). Y gamlas sydd wedi'i llenwi bellach yw Parc y Gamlas unionlin.

cardiff_canal_aerial_view

Agorwyd y rhan hon o'r gamlas ym 1798, bedair blynedd ar ôl i Gamlas Morgannwg agor o Ferthyr Tudful i fasn yng Nghaerdydd. Roedd yr adran fwy newydd yn ehangach ac yn cysylltu'r derfynell wreiddiol ag afon Taf, gan alluogi i longau môr gyrraedd glanfeydd y gamlas yn yr hyn sydd bellach yn Sgwâr Callaghan.

Fel y dengys y llun hwn, cafwyd ceiau ar hyd rhannau lletaf y gamlas. Roedd yno hefyd warysau, a wasanaethid gan draciau rheilffordd a seidins. Gwelir dwy fan rheilffordd ar y chwith isaf.

Ar dop y llun gwelir “pwll pren” bas, a gloddiwyd yn yr 1880au oherwydd nad oedd y ddau bwll blaenorol yn ddigon mawr ar gyfer y fasnach bren a oedd yn tyfu'n gyflym. Roedd pyllau pren yn galluogi mewnforwyr i storio pren mewn dŵr nes iddo gael ei werthu. Roedd hyn yn atal y pren rhag cracio ac ystumio.

Cod post: CF10 5JB    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button