Cyn-gartref un o arweinwyr y swffragetiaid, Y Drenewydd

button-theme-women PWMP logo

Cyn-gartref un o arweinwyr y swffragetiaid, 11 Stryd Hafren, Y Drenewydd

Roedd pencadlys fwy neu lai yr ymgyrch ranbarthol ar gyfer y bleidlais i ferched yn yr adeilad hwn pan oedd yn gartref i Alix Minnie Clark. Fe'i gelwid yn “The Hut” ac weithiau byddai’n ganolbwynt i brotestiadau gan bobl a oedd o'r farn mai dim ond dynion ddylai gael pleidleisio mewn etholiadau. Yn anarferol, parhaodd yr ymgyrchu drwy'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r adeilad yn llawer hŷn na'i ffryntiad Sioraidd. Mae'n debyg fod rhai o'r trawstiau hynafol y tu mewn wedi dod o longau hwylio wedi'u datgymalu. Roedd cefn yr eiddo, lle mae gan Age UK siop, yn ffatri wehyddu cyn i gynhyrchu tecstilau ganolbwyntio ar felinau mecanyddol yn y 19eg ganrif.

Yr athro piano di-briod, Alix Clark, oedd y prif ffigwr yng nghangen ranbarthol Cynghrair Rhyddid y Menywod (WFL). Ffurfiwyd y gangen yn 1911 a chyn hir roedd ganddi gannoedd o aelodau. Teithiai pobl bellteroedd maith i'r cyfarfodydd a drefnai Alix yn Sir Drefaldwyn ac ar arfordir Bae Ceredigion.

newtown_alix_clark_in_demoRoedd gwrthwynebwyr yn aml yn targedu'r digwyddiadau. Cafodd un cyfarfod yn 1912 ei chwalu gan “dorf yn gweiddi’n ffyrnig”, gyda siaradwyr yn dioddef ymosodiadau corfforol. Daeth cyfarfod arall y flwyddyn honno, ym Mhwllheli, i ben gyda'r heddlu'n achub Alix a'i gyd-ymgyrchydd Anna Munro o afael y bobl ifanc oedd yn chwalu llwyfan dros dro’r WFL.

Teithiodd Alix yn helaeth ar y trên i ddosbarthu papur newydd y WFL, gan ddosbarthu 1,000 o gopïau mewn un ymweliad ag Eastbourne ym 1911. Ymunodd â phwyllgor gwaith cenedlaethol y WFL ym 1912. Gwelir Alix ar y chwith yn y ffotograff o ddigwyddiad WFL yn Suffolk.

Yn wahanol i lawer o ymgyrchoedd eraill o blaid y bleidlais i ferched, parhaodd yr WFL yn weithredol yng Nghanolbarth Cymru drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1917 cadeiriodd Alix gyfarfod yn Aberystwyth lle dywedodd Anna Munro fod y gwaith oedd yn cael ei wneud gan fenywod wedi “chwalu’r” syniad na ddylai menywod gael caniatâd i bleidleisio oherwydd eu hanallu i wneud eu rhan nhw o waith y rhyfel. Dywedodd fod pleidleisiau i fenywod yn hanfodol oherwydd byddai ailadeiladu Prydain ar ôl y rhyfel yn gofyn am gydweithrediad pob dyn a menyw.

Cymerwyd cam mawr ymlaen yn lleol yn 1922, pan etholwyd Elizabeth Williams i gyngor Y Drenewydd a Llanllwchaearn ac Alix i fwrdd gwarcheidwaid y tlodion lleol. Dathlwyd y ddau lwyddiant fel buddugoliaethau i'r gangen WFL. Codwyd baner y WFL yma, a chariwyd y ddwy ferch o'r cyfrif etholiadol “i’r Hut gan dorf enfawr o bobl”.

Symudodd Alix i Surrey ym 1929 a pharhaodd i ymgyrchu dros hawliau menywod. Bu farw ym 1948.

Gyda diolch i Ryland Wallace, awdur 'The Women's Suffrage Movement in Wales, 1866-1928', a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru

Cod post: SY16 2AQ    Map

I barhau â thaith Y Drenewydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, cerddwch tua'r dwyrain at y bont droed dros yr afon, y tu hwnt i'r maes parcio
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button