Safle ymarferion ar gyfer D-day, Amroth

amroth_exercise_jantzen_iwm_image

Yn 1943 cynhaliwyd ymarfer milwrol o bwys ar hyd y glannau hyn er mwyn paratoi’r lluoedd arfog ar gyfer cyrchoedd D-Day. Mae’r ffotograffau a ddangosir yma, gyda chaniatâd yr Amgueddfa Ryfel, yn rhan o ffilm a wnaed gan y Swyddfa Ryfel. Gellir gweld honno wrth ddilyn y ddolen isod.

Cyn i luoedd y Cynghreiriaid allu mentro glanio ar draethau Normandi ym Mehefin 1944, roedd yn hanfodol eu bod yn ymarfer dod â milwyr ynghyd â nwyddau i’r lan yn llwyddiannus. Cynhaliwyd un o’r ymarferion ar y traethau hyn ym Mehefin 1944. Yr arwyddair oedd Exercise Jantzen. Y prif amcan oedd ymarfer dadlwytho cychod glanio ar ôl sicrhau troedle addas ar y traeth. Ar gyfer yr ymarfer hwn rhaid oedd derbyn bod yr arfordir eisoes yn ddiogel.

Llwythwyd miloedd o dunelli o nwyddau a chyfarpar milwrol ar longau a oedd yn hwylio o Ddinbych-y-pysgod, Abertawe a Port Talbot; fe’u danfonwyd at arfordir de-ddwyrain Sir Benfro. Dewiswyd traethau a ymdebygai i’r rheini a oedd yn Normandi. Parhaodd yr ymarfer dros gyfnod o dri diwrnod ar ddeg. Yn ystod y cyfnod hwnnw dygwyd 16,230 tunell fetrig o nwyddau i’r lan. Mae hynny’n ymddangos yn sylweddol ond roedd gryn dipyn yn is na’r nod a fwriedid sef 23,400 tunell fetrig.

amroth_exercise_jantzen_iwm_film_image

Dros gyfnod yr ymarfer roedd trigolion lleol wedi eu gwahardd o’r traethau a’r heddlu’n gweithredu cyrffyw. Daeth tarw dur i dorri amryw lwybrau drwy’r caregos a estynnai ar hyd traeth Llanrhath. Gwanhawyd yr amddiffynfeydd a oedd yn i wrthsefyll grym y môr. Yn y pen draw daeth cymorth o du’r Llywodraeth i dalu am furiau amddiffyn a grwynau. Cyn iddo suddo i’r tywod gellid gweld, tan yn ddiweddar, gwch glanio oedd wedi ei adael ar draeth Amroth.

Elwodd lluoedd y Cynghreiriaid yn fawr o’u profiadau yn ystod Exercise Jantzen gan sylweddoli nad oedd dadlwytho offer oddi ar longau i’r  traeth yn llwyddiant. Mae’n bosibl mai’r wers hon a ddangosodd i’r awdurdodau milwrol mai’r dull mwyaf effeithiol i ddadlwytho milwyr ac offer, ar ôl sicrhau troedle ar y traeth, oedd adeiladu harbwr artiffisial. Yn y pen draw, dyma a ddigwyddodd yn Normandi pan adeiladwyd Port Winston yn Arromanches. Arbrofwyd ag harbwr ‘Mulberry’ o’r fath yng Nghonwy a’i adeiladu ar safleoedd gwahanol ar draws Prydain.

Chwedl sydd wedi gwreiddio’n lleol yw bod y Prif Weinidog, Winston Churchill, wedi gwylio Exercise Jantzen ac yfed te mewn gwesty gerllaw.

Am yr enw lle:

Lan-rath (sef Llan-rath) oedd yr enw gwreiddiol ar yr eglwys yn Amroth. Ystyr Amroth yw ‘ger (afon) Rhath’ ac mae’n cynnwys yr elfennau am ‘o gwmpas, yn amgylchynu, o boptu’ a rhath sef 'amddiffynfa' gan gyfeirio at y gaer ger yr eglwys.

Diolch i Adrian Hughes, Mark Harvey, Jason Lawday, yr Amgueddfa Ryfel, ac i'r Athro Dai Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mae’r ffilm Exercise Jantzen ar wefan yr Amgueddfa Ryfel (Rhif catalog DRA 711)

Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label button_nav_5W-WEbutton_nav_5W-EW