Safle rhaffordd awyr/crog, Aberaeron

Safle rhaffordd awyr/crog, Aberaeron

aberaeron_carriage_bach

Am sawl degawd, byddai ymwelwyr ag Aberaeron yn cael eu cludo dros yr afon yn y fan hon mewn gondola oedd ynghlwm wrth gebl. Mae’r sylfaen ar gyfer yr offer i’w weld ar y borfa ar yr banc ar yr ochr arall i’r afon.

Gosodwyd a threfnwyd yr offer yn wreiddiol gan y Capten John Evans er mwyn cysylltu ei gartref â melin goed o’i eiddo ar y lan gyferbyn, yn ystod y cyfnod pan oedd y bont dros yr afon yn rhan isaf y dref yn cael ei hailadeiladu yn dilyn llifogydd 1881. Atgyweiriwyd y bont sawl gwaith ers ei chodi yn 1814 ar sylfeini simsan. Yn ddiweddarach, cloddiwyd cerrig ar lan yr afon yn uwch i fyny, er mwyn adeiladu tai a chymerwyd cerrig o wely’r afon yn is i lawr yn falast i longau gweigion a oedd yn gadael yr harbwr. Achosodd y newid yng ngrym llif yr afon niwed i wely’r afon o dan y bont a’i gwanhau.

Erbyn 1822 ar ddiwrnod ffair roedd Capten Evans yn agor y “tramcar” i’r cyhoedd. Fe’i bedyddiwyd y “carriage bach”. Ceiniog oedd cost tocyn dwyffordd. Cyflogid gŵr i halio’r cerbyd ar draws yr afon. Byddai’r cebl yn cael ei ostwng i wely’r afon pan fyddai angen sicrhau bod llwybr didramgwydd i gychod mastiog a fyddai naill ai’n cyrraedd neu’n ymadael â’r rhan o’r harbwr, sef rhwng y fan hon a’r bont, ar lanw uchel. Codid yr offer a’i storio ddiwedd pob haf.

Erbyn 1885 roedd Evan Loyn, tafarnwr a masnachwr glo, wedi darparu ei fersiwn ei hunan o’r siwrnai. Yr enw a roddwyd ar y cerbyd pedair sedd oedd yr “Aeron Express”. Ceir llun ohono ar y cerdyn post uchod. Ar “Ddydd Mercher Mawr” y ffair ym mis Gorffennaf 1896, prynwyd 1,000 o docynnau dimai ar gyfer y siwrnai. Talodd ryw 12,000 o deithwyr am daith yn ystod haf 1901. Erbyn hynny, deiliaid prydles yr harbwr yn unig oedd â’r hawl ar y “carriage bach”.

Buwyd wrthi’n trefnu teithiau tan yn gynnar yn y 1930au.  Bu cerbyd tebyg yn croesi’r afon am rai blynyddoedd ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au.

Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Cod post: SA46 0BU    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button