Safle Pont Droi James Street, Caerdydd

button-theme-canalSafle Pont Droi James Street, Caerdydd

Yn wreiddiol, roedd y rhan hon o James Street yn cael ei chario dros Gamlas Morgannwg ar bont droi ddur fawr. Tynnwyd y lluniau isod - trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd - ym 1943.

cardiff_james_street_swing_bridge

Os ydych chi newydd sganio'r codau QR ger y groesfan sebra, gallwch weld lle’r rydych yn mynd o'r adeilad ar y chwith yn y llun cyntaf. Mae'r to sy’n edrych fel het ar gornel Ocean House yn dal i fod yn garreg filltir. Mae llwybr y gamlas a lenwyd yn rhedeg tua'r gogledd a thua’r de o James Street, fel Parc y Gamlas.

Cynlluniwyd y rhan hon o'r gamlas, a agorwyd ym 1798, i longau môr gyrraedd y glanfeydd yn Sgwâr Callaghan o'r loc môr ger aber Taf. Roedd y llongau hynny yn rhy fawr i basio o dan bontydd ffyrdd isel, fel y gallai cychod cul traddodiadol ei wneud (cychod camlas).

Penderfynodd Cyngor Tref Caerdydd ymestyn Stryd James o'r dociau i Grangetown ar ddiwedd yr 1880au. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu Pont Clarence newydd dros Afon Taf a phont droi yma, lle bu'n rhaid dymchwel rhai bythynnod. Roedd y bont droi yn 32 metr (105 troedfedd) o hyd ac yn troi ar y pen gorllewinol. Pan oedd llong angen dod drwodd, roedd cloch yn canu ac roedd rhaid i’r holl bobl a cherbydau glirio dec y bont, a fyddai'n cylchdroi tua 90 gradd.

Mae'r lluniau'n dangos tŵr rheoli'r bont, gyda ffenestri ar bob ochr. Yn fuan dechreuodd pobl a busnesau gwyno bod y bont ar gau i ddefnyddwyr y ffordd yn rhy aml, ac am hyd at 15 munud ar y tro!

cardiff_canal_swing_bridgeMae'r llun uchaf yn dangos lori, wagen yn cael ei thynnu â cheffyl, a chert llaw. Yn y pellter, mae car modur a thram trydan. Eistedda plant ar droedffordd y bont!

Cod post: CF10 5EW    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button