Pont gamlas Heol y Gogledd gynt, Caerdydd

button-theme-canalPont gamlas Heol y Gogledd gynt, Caerdydd

Yn wreiddiol, roedd pen gorllewinol y llwybr hwn i gerddwyr yn bont oedd yn cario Heol y Gogledd dros Gamlas Sir Forgannwg. Gallwch weld y bwa cerrig yn y darlun isod o’r 1880au – a welir yma diolch i Lyfrgelloedd Caerdydd.

cardiff_canal_north_road

Mae’r darlun yn dangos yr olygfa tua’r de o’r llwybr tynnu lle'r oedd y gamlas yn rhedeg ochr yn ochr â waliau dwyreiniol Castell Caerdydd. Sylwch ar dŵr Eglwys Sant Ioan yn y cefndir. Yn yr hen gerdyn post isod (gyda diolch i Vena a Wynne Edwards), mae’r bont ar y chwith ar ôl llydanu’r heol.

Agorodd y gamlas yn 1794 i gysylltu Merthyr Tudful â’r môr. Roedd yn dal i fod yn brysur ar ôl i’r rheilffyrdd gael eu creu. Roedd y glofeydd a’r gwaith haearn prysur yn cynhyrchu mwy na’r hyn y gallai’r rheilffyrdd cyntaf ddelio ag ef, ac roedd sawl cyfleuster diwydiannol wedi’i leoli’n bwrpasol ger y gamlas. Cafodd rhan Caerdydd y gamlas ei llenwi’n yn y pendraw yn ystod y 1950au.

Rhywbeth arall o oes y gamlas y gallwch chi ei weld heddiw yw’r teclyn troi ar gyfer padl daear (llifddor sy’n rheoli cwrs dŵr). Ger hwnnw, mae polyn haearn fertigol oedd yn amddiffyn rhaffau llusgo rhag crafu yn erbyn cerrig lle'r oedd y gamlas yn troi. Sylwch ar y rhychau sydd ar y polyn yn sgil rhaffau gwlyb oedd wedi codi grit oddi ar y llwybr llusgo. Crëwyd y rhychau isaf gan gychod gorlawn.

cardiff_north_road_canal_bridgeGallwch weld ceffyl a rhaff lusgo yng ngwaelod cornel dde’r darlun. Erbyn yr 1880au, roedd pŵer stêm wedi’i gaffael at sawl diben ond roedd cychod yn dal i gael eu tynnu gan geffylau ar Gamlas Sir Forgannwg. Roedd prawf cwch stêm yn yr 1870au wedi dangos nad oedd y gamlas yn ddigon dwfn yn ardal Pontypridd.

Yn 1893, roedd pryderon y byddai pobl oedd yn arwain ac yn gofalu am y ceffylau’n colli eu swyddi, gan fod bad stêm newydd wedi’i adeiladu ar gyfer y gamlas. Roedd gan yr injan bŵer 16 o geffylau, digon i gludo 17 tunnell o gargo ac i lusgo tri o gychod heb bŵer.

Cyn bo hir, daeth y pryderon hyn yn chwerthinllyd… Wrth ei brofi, daeth y stemar i’r lan ar ôl ychydig fetrau ger Lôn y Felin. Ar ôl iddo fynd yn ôl ar y dŵr, aeth y llafn gwthio’n sownd gyda defnydd matiau cnau coco, gwifrau, rhaffau a sbwriel arall. Cafodd y cwch ei lusgo i Heol y Frenhines, cyn i ddeifiwr glirio’r llafn gwthio ac yna parhau’n ara’ deg i Nantgarw. Roedd rhaid i’r criw a’r gwesteion deimlo cywilydd a dioddef jôcs gan bobl oedd yn gwylio… gofynnodd rhai ohonynt pryd oedd disgwyl i’r cwch gyrraedd Pontypridd!

Gyda diolch i Phil Hughes ac i Vena a Wynne Edwards

Côd post: CF10 3FD    Map

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button
I barhau â thaith Parc Bute, ewch tua’r de i fyny’r esgynfa at lefel y stryd. Dilynwch furiau’r castell at brif fynedfa Porth y De ar Stryd y Castell Navigation previous buttonNavigation next button